Mae dau fyfyriwr Gwyddoniaeth Fforensig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau mewn digwyddiadau CystadleuaethSgiliauCymru diweddar.
Mae Cerys Brooks, a enillodd fedal Arian, a Cara Morgan, a enillodd fedal Efydd, yn eu blwyddyn gyntaf yn astudio Cwrs BTEC Lefel 3.
Yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr eraill ledled Cymru, roedd gofyn iddynt ddadansoddi tystiolaeth mewn man lle cyflawnwyd trosedd (rhithwir), yn ogystal â chreu braslun manwl.
“Roedd rhai o’r cystadleuwyr eraill ym mlwyddyn olaf eu cwrs Lefel 3 neu ym mlwyddyn gyntaf eu cwrs Gradd, hyd yn oed, felly fe wnaeth Cerys a Cara yn dda iawn o ystyried yr unigolion mwy profiadol a oedd yn eu herbyn, ac o ystyried hefyd nad oedden nhw erioed wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r blaen,” dywedodd Amy Nisbet, darlithydd.
Mae’r broses gystadlu wedi bod yn brofiad gwych i’r ddwy ohonynt.
Mae’r daith ddysgu wedi bod yn un anhygoel, yn enwedig i Cerys. Pan ddaeth hi i Goleg Gŵyr Abertawe, doedd ganddi ddim cymwysterau ffurfiol ac mi roedd hi’n gorfod gofalu am aelod o’i theulu, gartref. I ddechrau, fe wnaeth hi ymuno â phrosiect Pontio'r Coleg, a alluogodd iddi hi gael blas ar ystod o gyrsiau galwedigaethol. Ychydig ar ôl hyn, fe ddatblygodd hi angerdd am wyddoniaeth, felly penderfynodd gofrestri ar gwrs BTEC Lefel 2.
“Er iddi ymuno â’r rhaglen Bontio ar ôl i’r tymor cyntaf gychwyn, mae Cerys wedi addo dal i fyny â’r gwaith mae hi wedi’i golli,” dywedodd Caryn Morgan, darlithydd. “Mae hi wedi gwneud cynnydd gwych ac wedi dangos ymrwymiad a phenderfyniad. Wrth iddi ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen flasu, mae hi wedi dod o hyd i’w hoff beth, sef gwyddoniaeth fforensig.”
“Fe wnaeth Cerys ffynnu wrth astudio’r Cwrs Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Fforensig, ac fe wnaeth hi ddatblygu ei thechnegau gwyddonol a fforensig,” ychwanego Rob Abraham, darlithydd. “Mae Cerys yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni os ydych yn ymroi yn llawn i angerdd newydd. Rydyn ni’n hapus iawn i weld cynnydd Cerys hyd yma ac yn edrych ymlaen at weld beth y gall ei gyflawni yn y dyfodol.”