Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o lansio OpenClass, platfform dysgu pwrpasol ar gyfer disgyblion ysgol Blwyddyn 11 y ddinas.
Mewn ymateb i’r sefyllfa barhaus sy’n datblygu o hyd gyda Covid-19, mae’r Coleg wedi bod yn awyddus i ddatblygu platfform pwrpasol i helpu i gadw ymgeiswyr ar y trywydd iawn o ran eu dysgu.
Mae’r platfform yn cynnwys deunyddiau dysgu, gweithgareddau ac offer o feysydd cwricwlwm amrywiol gan gynnwys iechyd a gofal, peirianneg, gwyddoniaeth a busnes. Mae hefyd yn cynnwys teithiau VR o amgylch campysau’r Coleg a gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad sgiliau digidol a lles.
“Roedden ni’n wirioneddol awyddus i ddatblygu rhywbeth a fyddai’n rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr archwilio cyrsiau Coleg yn ystod y cyfnod heriol hwn,” dywedodd Arweinydd Tîm Technoleg Dysgu Rhyngweithiol, Kate Pearce. “Heb os, bydd yn eu helpu i ddod yn gyfarwydd â’r cwricwlwm cyn dechrau gyda ni yn yr hydref.”
“Rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod gan ein hymgeiswyr fynediad at ddeunyddiau dysgu a fydd nid yn unig yn helpu i ddatblygu eu sgiliau, ond yn cynyddu hyder ac yn y pen draw yn eu galluogi i drosglwyddo’n ddidrafferth o’r ysgol i’r coleg pan ddaw’r amser,” ychwanegodd y Dirprwy Bennaeth, Nick Brazil.