Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymuno â Mindful Education i gynnig amrywiaeth o gyrsiau cyfrifeg hyblyg a addysgir trwy gyfuniad o wersi ar-lein a dosbarthiadau ar y campws – perffaith ar gyfer y cyfnod anarferol hwn.
Gan weithio mewn partneriaeth, mae’r Coleg a’r cwmni technoleg addysg yn Llundain yn addysgu cymwysterau AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) o lefelau 2 i 4, cyrsiau sy’n cwmpasu ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys cadw cyfrifon, costio, a chyfrifeg rheoli.
“Mae’r achosion diweddar o’r Coronafeirws wedi peri cryn newid byd ar draws pob agwedd ar fywyd, yn enwedig y ffordd rydyn ni’n gweithio a dysgu,” dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Mindful Education, Mark Mckenna. “Mae pryderon ynghylch cadw pellter cymdeithasol a diweithdra cynyddol wedi arwain dysgwyr sy’n oedolion i geisio cyrsiau proffesiynol hyblyg gydag elfen o astudio ar-lein. Mae ein cyrsiau arobryn yn cyfuno hyblygrwydd dysgu ar-lein gyda manteision sesiynau dan arweiniad tiwtor yn yr ystafell ddosbarth, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ffitio eu hastudiaethau o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu.”
Ategir darlithoedd fideo ar-lein gan graffeg symudol, animeiddio, a chwisiau rhyngweithiol i helpu i ymgorffori dysgu. Mae gwersi yn para tua 45 munud a gellir eu cyrchu o unrhyw ddyfais, gan roi’r opsiwn i ddysgwyr ddewis sut, ble a phryd maen nhw am astudio.
Bydd myfyrwyr hefyd yn mwynhau buddion dosbarthiadau rheolaidd yn y Coleg pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, lle caiff y dysgu ei ategu gan ymarferion grŵp a dysgu yn yr ystafell ddosbarth gyda thiwtor profiadol.
Oherwydd natur y cyrsiau hyn ar-lein ac ar y campws, gall myfyrwyr barhau â’u hastudiaethau yn ddi-dor gyda phellhau cymdeithasol ar waith ac mae modd addasu’r dull hyblyg hwn pe byddai canllawiau Llywodraeth Cymru yn newid.
“Rydyn ni’n falch iawn o’n darpariaeth cyfrifeg arobryn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac rydyn ni wedi gweithio’n galed i ymaddasu i’r sefyllfa gyfredol, gan roi ein myfyrwyr wrth wraidd pob penderfyniad a datblygiad,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Bruce Fellowes. “Mae cymysgedd o ddysgu ar-lein ac ar y campws yn rhoi’r gorau o ddau fyd i’n dysgwyr yn y sefyllfa sydd ohoni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Mindful Education i gyflwyno’r dull addysgu hwn wrth i ni weithio gartref ac – i’r dyfodol – pan fyddwn ni’n dychwelyd i elfen o addysgu wyneb yn wyneb yn ein Hysgol Fusnes Plas Sgeti newydd sbon yn nes ymlaen eleni.”
***
Mae Mindful Education yn gweithio mewn partneriaeth â cholegau, darparwyr hyfforddiant a darparwyr cyflogwyr ledled y DU i addysgu prentisiaethau a chyrsiau proffesiynol sy’n ymwneud llawer â’r cyfryngau ym meysydd cyfrifeg, rheolaeth, y gyfraith ac adnoddau dynol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://mindful-education.co.uk/