I’r holl rieni a myfyrwyr: Efallai eich bod yn gwybod, ar brynhawn dydd Iau 10 Rhagfyr, y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai colegau ac ysgolion uwchradd yn symud i ddysgu ar-lein ar gyfer yr wythnos nesaf - hynny yw, yr wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr.
Wrth gwrs ni fydd hyn yn gwneud fawr o wahaniaeth yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gan ein bod eisoes wedi cyhoeddi y bydd y nifer fach o gyrsiau a sesiynau tiwtorial a drefnir ar gyfer yr wythnos nesaf yn cael eu haddysgu ar-lein.
Fodd bynnag, yn hwyrach yn ystod yr un prynhawn, roedd pob un o’r 13 Coleg AB yng Nghymru wedi cytuno i fynd gam ymhellach a gwneud cyhoeddiad nawr, sef yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl y gwyliau – yr wythnos yn dechrau 4 Ionawr 2021 - bydd yr holl addysgu yn cael ei gynnal ar-lein hefyd gan ddilyn yr un patrwm addysgu ar gyfer pob dosbarth ag y gwnaethom yn llwyddiannus ychydig cyn yr hanner tymor diwethaf.
Mae’r penderfyniad hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, ar adeg pan mae cynifer o bethau eraill yn ansicr, ac mae’n caniatáu i’r Coleg barhau i flaenoriaethu iechyd a lles ein holl fyfyrwyr a staff ar adeg - ar ôl y Nadolig – pan, yn anffodus, byddwn i gyd yn rhagweld cynnydd yn nifer yr achosion positif.
I fod yn glir, bydd y Coleg ar agor - ond bydd yr holl addysgu’n digwydd ar-lein - a byddwn yn gwneud trefniadau i’r holl arholiadau angenrheidiol gael eu cynnal ar y safle. Yn ogystal bydd trefniadau ar wahân i’n dysgwyr mwyaf agored i niwed a byddwn yn cyfathrebu â’r rheini yn uniongyrchol.
Nid ydym yn credu y bydd yr wythnos ychwanegol hon yn cael unrhyw effaith ar ein dysgwyr. Mae ein ffocws ar addysgu wyneb yn wyneb, a rheolaeth drylwyr ar bellter cymdeithasol, wedi golygu bod llai na 10% o’n myfyrwyr a 5% o’n staff wedi gorfod hunanynysu er mis Medi (gyda dim ond un achos lle mae un unigolyn, sef aelod o staff, wedi gorfod hunanynysu ar fwy nag un achlysur).
Cyflawnwyd hyn i gyd diolch i ymdrech fawr y staff nid yn unig yn yr ystafelloedd dosbarth ond ar draws y Coleg e.e. rheoli symudiadau myfyrwyr a chyflwyno atebion arloesol fel y gwnaethom gyda Safon Uwch, gyda chyrsiau Safon Uwch gwahanol yn cael eu haddysgu ar ddiwrnodau gwahanol. Mae ymrwymiad ac egni ein staff yn gyfrifol am gadw’r niferoedd hyn mor isel ag y maent, ac rwyf mor falch ohonynt.
Hoffwn ddiolch i chi hefyd am eich cymorth a’ch amynedd parhaus y tymor hwn ac rwy’n gobeithio y cewch chi Nadolig pleserus, os nad ychydig yn wahanol, ac, yn bwysicaf oll, cymerwch ofal ohonoch chi’ch hun a’ch teuluoedd a chadwch yn ddiogel.
Mark Jones
Pennaeth
Coleg Gŵyr Abertawe