Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd basio Safon Uwch gyffredinol o 99%. Derbyniwyd 1255 o gofrestriadau ar gyfer sefyll yr arholiadau.
Roedd 34% o’r graddau hyn yn A*- A, gyda 61% yn A*- B ac roedd 85% yn A*- C.
Y gyfradd pasio cyffredinol ar gyfer Safon UG oedd 91%, gyda 66% o’r graddau hynny yn A - C, a 43% ohonynt yn A - B. Derbyniwyd 2610 o gofrestriadau unigol ar gyfer sefyll arholiadau Safon UG.
Mae canlyniadau galwedigaethol y Coleg unwaith eto yn gryf eleni, gyda Diplomâu Estynedig Lefel 3 yn cyflawni cyfradd basio o 99%. Yn ogystal, fe gyflawnodd 64% o’r myfyrwyr hynny o leiaf un Rhagoriaeth.
Ar ôl blwyddyn academaidd heriol, mae’r Coleg yn hapus iawn gyda’r canlyniadau arholiadau.
Unwaith eto bu llwyddiant mawr o ran cyflawni graddau uwch, gyda 30 o’n myfyrwyr yn llwyddo i ennill A* i gyd. Llwyddodd 127 o fyfyrwyr i ennill gradd A*-A, a gwelwyd graddau A*- C yn codi ar gyfradd o 3%.
Bydd tua 1000 o’n myfyrwyr yn awr yn symud ymlaen i’r brifysgol, gan gynnwys 11 myfyriwr sydd wedi ennill graddau gystal fel eu bont yn astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt.
"Unwaith eto, rwy’n hapus iawn gyda’n canlyniadau, sydd yn parhau i wella blwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai Mark Jones y Pennaeth. “Rwy’n falch iawn o’n myfyrwyr a’n staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i addasu i’r dull newydd hwn o asesu a graddio. Yn bersonol, mae’r ffaith bod canlyniadau eleni yn well na chanlyniadau rhagorol y llynedd, yn profi’r ymddiriedolaeth sydd gan y cyrff arholi yng ngwaith staff y Coleg. Mae hyn yn newyddion gwych i’n myfyrwyr presennol ac i’r myfyrwyr newydd sy’n ymuno â ni ym mis Medi.
"Rwyf hefyd yn arbennig o falch o’n myfyrwyr a’n staff eleni oherwydd eu bod wedi gorfod addasu i amgylchiadau annisgwyl iawn. Trwy gydol y cyfnod cloi, rydym wedi gweithio’n galed fel Coleg i drosglwyddo cyn llyfned â phosibl i gynnig dysgu ar-lein. Rydym hefyd wedi sicrhau bod gan y dysgwyr fynediad at wahanol lefelau o gefnogaeth. Gobeithiaf nawr eu bod yn gallu ymlacio ychydig a’u bod yn edrych ymlaen at gam nesaf eu taith.”