Mae 12 myfyriwr Safon uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2020.
Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n ceisio darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
Enw: |
Ysgol flaenorol: |
Cynigiwyd lle yn: |
I astudio: |
Rosa Barrett |
Ysgol Friars, Bangor |
Coleg Murray Edwards, Caergrawnt |
Mathemateg |
Caitlin Cavallucci |
Pen-yr-heol |
Coleg Homerton, Caergrawnt |
Addysg a Seicoleg Dysgu |
Megan Edwards |
Llandeilo Ferwallt |
Coleg Churchill, Caergrawnt |
Gwyddorau Naturiol (Ffisegol) |
Georgia Fearn |
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth Caerfyrddin |
Coleg Churchill, Caergrawnt |
Saesneg |
Mia Lamb-Richards |
Llandeilo Ferwallt |
Coleg St Hilda, Rhydychen |
Cemeg |
Rhidian Lerwell |
Pen-yr-heol / Coleg Hartpury |
Coleg Corpus Christi, Rhydychen |
Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg |
Jason Liu |
Ysgol Dyffryn Aman ac Olchfa |
Coleg Churchill, Caergrawnt |
Seicoleg a Gwyddorau Ymddygiadol |
Lisa Lucini |
Olchfa |
Coleg yr Iesu, Caergrawnt |
Meddygaeth |
Morgan Richards |
Llandeilo Ferwallt |
Coleg Pembroke, Rhydychen |
Biocemeg |
Hannah Short |
St John Lloyd, Llanelli |
Coleg Newnham, Caergrawnt |
Meddygaeth |
Harrison Thomas |
Cwmtawe |
Coleg Churchill, Caergrawnt |
Daearyddiaeth |
Ioan Webber |
Olchfa |
Neuadd y Drindod, Caergrawnt |
Peirianneg |
Mae Rhaglen Rhydgrawnt y Coleg yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, ymweliadau â Phrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesu mewn pynciau perthnasol.
Coleg Gŵyr Abertawe - ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt - yw’r unig Goleg AB neu ysgol wladol yng Nghymru i redeg rhaglen HE+. Yn gweithio ochr yn ochr â Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru, nod HE+ yw datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth wneud eu dewisiadau prifysgol.
Yn ogystal, yn 2019 roedd y Coleg yn falch iawn o gryfhau cysylltiadau â Phrifysgol Rhydychen gyda chyflwyniad gweithdai ‘Step Up’ a gyflwynwyd mewn partneriaeth â New College, Rhydychen. Bwriad y gweithdai hyn yw sicrhau bod myfyrwyr sydd â photensial academaidd uchel yn cydnabod Rhydychen fel opsiwn realistig a chyraeddadwy wrth wneud cais am brifysgol.
“Rydyn ni’n falch dros ben o lwyddiant y myfyrwyr hyn,” meddai Felicity Padley, prif diwtor Rhydgrawnt. “Cael 12 cynnig ar y ford mewn un flwyddyn academaidd yw’r perfformiad gorau rydyn ni wedi’i weld ers ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe yn 2010.”
Mae’n hyfryd gweld nifer gynyddol o fyfyrwyr o Abertawe yn elwa ar gyfleoedd HE+ a Rhwydwaith Academi Seren,” meddai Cydlynydd HE+ a Seren, Fiona Beresford. “Mae'r rhaglenni hyn yn helpu myfyrwyr i gael y cyngor, yr arweiniad a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud ceisiadau cystadleuol iawn – a cheisiadau llwyddiannus yn y pen draw. Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiannau ein myfyrwyr.”
“Y llynedd, roedd dros 200 o fyfyrwyr o’r Coleg wedi cael cynigion gan brifysgolion Russell Group, ac roedd canran y ceisiadau hyn a arweiniodd at gynigion fwy na 10% yn uwch na chyfartaledd y DU,” ychwanegodd y Prifathro Mark Jones.
DIWEDD
Lluniau: Adrian White