Mae dau fyfyriwr Gwyddoniaeth Gymhwysol o Goleg Gŵyr Abertawe yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth ranbarthol a fydd yn rhoi eu galluoedd ymchwilio fforensig ar brawf.
Erin Doek a Leon Harris, sy’n astudio cwrs BTEC Lefel 3 ar Gampws Tycoch, yw’r myfyrwyr cyntaf o’r Coleg i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwyddor Fforensig CystadleuaethSgiliauCymru, sy’n cael ei gynnal yng Ngholeg Gwent ar 31 Ionawr.
Ar y diwrnod, bydd Erin a Leon yn cystadlu yn erbyn pedwar tîm arall sydd â senario trosedd realistig i’w dadansoddi ac i ymchwilio iddi.
Bydd angen i’r cystadleuwyr gwblhau ymarfer archwiliad fforensig ‘Special Property’ (SPR), gan ddangos y gallu i gadw cywirdeb a dilyniant drwy gydol y broses, gan sicrhau y caiff technegau a gweithdrefnau archwilio priodol eu defnyddio yn unol â fframwaith cymhwysedd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS).
“Mae Erin a Leon yn gweithio’n galed dros ben i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon, a bydd yn gyfle gwych iddyn nhw roi’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu yn y labordy a’r ystafell ddosbarth ar waith mewn lleoliad byd go iawn,” meddai’r darlithydd Dr Amy Herbert. “Bydd rhaid iddyn nhw weithio’n wirioneddol dda fel tîm i sicrhau eu bod yn diwallu’r briff, a dwi’n hyderus y byddan nhw’n gwneud hynny oherwydd mae’r ddau ohonyn nhw wedi mynegi diddordeb go iawn mewn gwaith fforensig fel llwybr gyrfa posibl ac maen nhw’n edrych ymlaen at gystadlu.”
***
Ym mis Chwefror, bydd dau fyfyriwr arall o Goleg Gŵyr Abertawe yn cael eu rhoi ar brawf pan fyddant yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Technegydd Labordy CystadleuaethSgiliauCymru yng Ngholeg Merthyr.
Bydd Katelyn Dowdeswell ac Iwan Lewis, sy’n brentisiaid yn gweithio yn Tata Steel, yn wynebu tasg ymarferol a fydd yn debygol o gynnwys arbrofion, dadansoddi data, gwaith labordy dadansoddol ac adrodd canlyniadau a bydd rhaid cyflawni’r rhain i gyd mewn modd annibynnol, diogel ac effeithlon.