Mae’r cyn-fyfyriwr Technoleg Peirianneg Joe Snelling wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i brentisiaeth gydag OEM Peirianneg yn Llansamlet.
Dechreuodd Joe yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar Raglen y Bont lle roedd wedi sefyll allan oherwydd ei ddoniau, ei etheg gwaith gadarn a’i agwedd aeddfed tuag at y Coleg a’i yrfa yn y dyfodol.
Mae Rhaglen y Bont a elwir bellach yn ‘Ddilyniant i Addysg Bellach’ wedi’u hanelu at ymadawyr ysgol sydd heb benderfynu am eu llwybr gyrfa yn y dyfodol.
Yna roedd Joe wedi ymuno â’r grŵp Technoleg Peirianneg Amlsgiliau Lefel 2 amser llawn ym mis Medi 2019, a sefyll allan oherwydd y sgiliau roedd yn eu dangos.
“Roedd cyfle ardderchog wedi codi gyda OEM, a Joe oedd y dewis amlwg,” dywedodd Coral Planas, Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg. “Cafodd ei gyflogi ar ein hargymhelliad fel tîm, ac rydyn ni wedi cael dim byd ond adborth cadarnhaol ganddyn nhw. Mae’r partneriaethau sydd gyda ni gyda’r cwmnïau hyn yn hynod bwysig.”
Mae hanner graddedigion Technoleg Peirianneg 2019 wedi cael prentisiaethau gyda chwmnïau megis TATA Steel, Sumitomo Electric Wiring Systems a Real Alloy, ac maen nhw wedi dychwelyd i’r Coleg fel myfyrwyr ar gyfer diwrnodau astudio. Enillwyd llawer o’r prentisiaethau hyn yn dilyn lleoliadau gwaith fel rhan o’r cwrs amser llawn ac oherwydd bod y tîm addysgu yn gweithio’n agos gydag adran Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg a chyflogwyr lleol.