Yn ystod digwyddiad cystadleuaeth WorldSkills Kazan 2019 yn ddiweddar, o’r 19 o fedalau a enillwyd gan Team UK roedd dim llai na chwech ohonynt wedi dod o Gymru.
Ymhlith enillwyr y medalau roedd Collette Gorvett, a astudiodd Letygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn cael ei chyflogi gan The Ritz yn Llundain. Roedd Collette wedi cystadlu yn y categori Gwasanaethau Bwyty, gan greu argraff ar y beirniaid gyda’i doniau gwneud moctêls, mise en place bwyty a bwyta mewn steil, i ennill Medaliwn Rhagoriaeth.
Hefyd yn casglu Medaliwn Rhagoriaeth roedd Tom Andrews, dysgwr o Swydd Hampshire a ddilynodd hyfforddiant cystadlu dwys ar Gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe dros gyfnod o ddwy flynedd cyn y digwyddiad yn Rwsia.
Aeth Tom i goleg chweched dosbarth a Phrifysgol Portsmouth cyn ymuno â Sonardyne, darparwr byd-eang technoleg acwstig, inertial, optegol a sonar tanddwr lle mae’n cael ei gyflogi ar hyn o bryd.
“Roedden ni’n falch o allu helpu Tom ar ei daith cystadlu, i ennill y medaliwn haeddiannol,” dywedodd Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm y Coleg ar gyfer Peirianneg Electronig a Rheolwr Hyfforddiant gyda WorldSkills.
“Diolch i fuddsoddiad sylweddol gan y Coleg a WorldSkills, roedd Tom yn gallu teithio i Abertawe i ddefnyddio ein hoffer arbenigol a’n cyfleusterau dysgu yn ystod ei wyliau. Wnaethon ni feithrin perthynas wych gyda Tom yn ystod y cyfnod hwn – i’r fath raddau fel y bydd yn dychwelyd ym mis Hydref i’n helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr electronig, gyda chymorth Semta.
“Cyn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills yn yr NEC ym mis Tachwedd, byddwn yn croesawu tîm o naw myfyriwr wrth iddyn nhw wneud eu hyfforddiant cyn cystadlu - mae pedwar ohonyn nhw’n dod o Goleg Gŵyr Abertawe. Gallai llwyddiant ar y lefel hon olygu eu bod yn cymryd eu camau cyntaf tuag at gystadlu yn WorldSkills Shanghai yn 2021.
“Bydd Tom yn gymorth ac yn fodel rôl wrth iddyn nhw wneud eu ffordd trwy’r broses gyffrous a heriol hon.”