Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd basio Safon Uwch gyffredinol o 99%, gyda 1205 o geisiadau arholiad ar wahân.
O’r rhain, roedd 35% yn raddau A*-A, roedd 61% yn raddau A*-B ac roedd 82% yn raddau A*-C.
Roedd y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG yn 92%, gyda 67% ohonynt yn raddau A - C a 44% A - B. Roedd 2447 o geisiadau arholiad ar wahân ar gyfer UG.
Roedd canlyniadau galwedigaethol y Coleg yn gryf unwaith eto eleni, gyda chyfradd basio o 100% ar draws Diplomâu Estynedig Lefel 3. Cyflawnodd 57% o’r myfyrwyr hyn o leiaf un Rhagoriaeth.
“Rydym wrth ein bodd unwaith eto eleni gyda’r canlyniadau Safon Uwch a Galwedigaethol,” meddai Mark Jones, y Pennaeth. “Mae nifer ein myfyrwyr Safon Uwch sydd wedi cael graddau A*-A yn uwch na blynyddoedd blaenorol. Rydym yn arbennig o falch o weld hyn. Er enghraifft, cafodd 27 o fyfyrwyr raddau A* ar draws y bwrdd a llwyddodd 121 i ennill graddaucyffredinol o A* i A - sy’n gyflawniad ardderchog. Cyflawnodd 128 o fyfyrwyr Safon UG graddau A cyffredinol.”
“Yr hyn sy’n arbennig o dda eleni yw llwybrau dilyniant yr unigolion ifanc wrth iddynt adael y Coleg. Mae rhai wedi dewis mynd i brifysgolion gorau’r DU er mwyn dechrau cyrsiau addysg uwch, tra bod eraill wedi cymryd llwybrau prentisiaethau neu brentisiaethau gradd. Mae rhai wedi penderfynu mynd yn syth mewn i fyd cyflogaeth, yn ogystal. Mae Coleg Gŵyr Abertawe falch iawn o fod wedi gallu eu helpu ar hyd ba bynnag llwybr dilyniant y maent wedi dewis.”
“Mae’n braf i weld bod eu gwaith caled yn dwyn ffrwyth a gobeithiaf y bydd ein myfyrwyr yn awr yn gallu ymlacio rhyw ychydig ar ôl cyfnod sy’n gallu bod yn un anodd. Rhaid i mi gymryd y cyfle hwn hefyd i gydnabod ein staff addysgu a chymorth gwych sydd wedi helpu’r dysgwyr hyn trwy gydol y flwyddyn.”