Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵr Abertawe wedi cynnal ei ail Ddiwrnod Iechyd a Lles blynyddol ar Gampws Tycoch.
Roedd dros 400 o aelodau o staff wedi mwynhau’r gweithgareddau rhad ac am ddim oedd yn cynnwys ioga, swingball, pêl-fasged chwyddadwy, teithiau cerdded tywys, tai chi, garddio, gwers dawns â thema Greatest Showman, canu a sesiynau tylino corff ymlaciol.
Yn ogystal, roedd staff yn gallu mynd o gwmpas y stondinau yng Nghanolfan Chwaraeon y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am aelodaeth o’r gampfa, ffitrwydd a maeth a mentrau eraill megis clwb llyfrau’r Coleg a’r rhaglen gymorth i gyflogeion Health Assured. Ac ar ôl i hyn oll godi awydd bwyd ar bawb, roedd bwyd iach blasus Gorllewin Affrica ar gael ac iogwrt rhewedig.
“Roedden ni wrth ein bodd gyda llwyddiant ein hail Ddiwrnod Iechyd a Lles, mae’n gyfle gwych i staff ymlacio a mwynhau gweithgareddau am ddim ar ddiwedd blwyddyn academaidd brysur arall,“ dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Sarah King. “Mae’r adborth rydyn ni wedi ei gael hyd yn hyn wedi bod yn hynod bositif ac felly mae hyn heb amheuaeth yn rhywbeth y byddwn ni’n ystyried ei dyfu a’i ddatblygu ar gyfer y dyfodol. Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran ac i bob un o’n partneriaid corfforaethol a chymunedol a ddaeth i gefnogi’r digwyddiad.”
Yn gynharach eleni, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol i gydnabod ei bolisi am gynnal a hyrwyddo safon uchel o iechyd a lles yn y gweithle.
Mae hyn ar ffurf ymgyrchoedd rheolaidd wedi’u targedu megis Amser i Siarad (ymwybyddiaeth o iechyd meddwl), Wythnos Hydradu, Wythnos Gofal Cefn a Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu. Yn ogystal, cafwyd anerchiad poblogaidd ar ‘y menopos yn y gweithle’ gyda’r awdur Nicki Williams, a gafodd ei ffrydio’n fyw ar draws pob campws er lles y rhai nad oedd yn gallu bod yno yn bersonol.