Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Addysg Fyd-eang Ysgol Uwchradd Education First (EF).
Rhoddwyd y wobr i’r Coleg i gydnabod ei rôl wrth helpu nifer o’i fyfyrwyr i gyflawni canlyniadau Safon Uwch ardderchog a symud ymlaen i rai o brifysgolion mwyaf nodedig y byd.
“Mae EF yn frand byd-eang adnabyddus ym myd addysg ac felly mae’n fraint go iawn i’r tîm rhyngwladol a staff addysgu Safon Uwch gael eu cydnabod am yr holl waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad y maent yn eu darparu i gefnogi ein myfyrwyr,” dywedodd y Pennaeth Rhyngwladol, Kieran Keogh.
Wedi’i sefydlu ym 1965, mae Education First (EF) yn cynnig rhaglenni astudio dramor, dysgu iaith, cyfnewid diwylliannol a graddau academaidd ledled y byd. Mae’n cyfuno hyfforddiant iaith â chyfnewid diwylliannol, cyflawniad academaidd a theithio addysgol i ddarparu cyrsiau a rhaglenni sy’n trawsnewid breuddwydion yn gyfleoedd rhyngwladol.