Wrth i’r byd digidol ddatblygu, mae cwmnïau’n cynyddu eu buddsoddiad mewn technolegau newydd i sicrhau gwell diogelwch, dadansoddi data a chynhyrchiant busnes. Gyda’r arloesed hwn daw bwlch sgiliau digidol cynyddol ac angen i addasu yn gyflym o ran gwella sgiliau’r gweithlu modern.
I ymateb i’r angen hwn, lansiodd Coleg Gŵyr Abertawe Fwrdd Cynghori Cyflogwyr Digidol yn 2018. Mae cynrychiolwyr y Bwrdd yn cynnwys cyflogwyr blaenllaw o Gymru o bob maint fel Admiral, HSBC, Dŵr Cymru, BBC, DVLA, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Tŷ’r Cwmnïau, Swyddfa Eiddo Deallusol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Abertawe, Arvato, Tinopolis, Vizolution, Simply Do Ideas a Vortex IoT.
Mae rhanddeiliaid dylanwadol eraill fel Llywodraeth Cymru, Diwydiant Cymru, TechHub a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol hefyd yn eistedd ar y Bwrdd.
Nododd y Bwrdd yn gyflym yr angen i greu ffrwd sgiliau digidol i gyflogwyr, yn ogystal â’r angen i roi sylw ar unwaith i’r diffyg atebion dysgu a datblygu priodol.
Aeth Coleg Gŵyr Abertawe ati wedyn i weithio gydag arbenigwyr y sector TramshedTech a Big Learning Company i ddatblygu cyrsiau cadarn ac arbenigol i gefnogi twf sgiliau digidol ym myd diwydiant.
“Mae cynnydd data mawr a dadansoddiadau yn angenrheidiol i ysgogi arloesed a newid,” dywedodd Louise Harris, Prif Swyddog Gweithredol TramshedTech / Big Learning Company. “Fodd bynnag, gallai twf o’r fath gael ei gyfyngu gan ddiffyg pobl fedrus yn y farchnad. Mae datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddadansoddi a rheoli data mawr yn mynd i fod yn heriol ac, erbyn 2020, mae’n cael ei gyhoeddi’n eang y bydd un filiwn o swyddi heb eu llenwi yn y sector TG yn bennaf oherwydd bod angen i’r sgiliau sydd gyda ni heddiw ddatblygu ac addasu ar gyfer y dyfodol.”
“Dyma pam mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant TG, ac ar flaen y gad o ran technoleg arloesol newydd, i ddatblygu a chyflwyno cyrsiau sy’n gweithio heddiw ond sydd hefyd yn sicrhau bod y gweithlu yn addas yn y dyfodol.”
Gan weithio ar y cyd, mae Coleg Gŵyr Abertawe, Big Learning Company a chyflogwyr blaenllaw wedi datblygu’r cymwysterau prentisiaeth canlynol wedi’u hariannu’n llawn, y mae rhai ohonynt yn Lefel 4 (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd):
- Seiberddiogelwch
- Dadansoddi Data
- TG, Meddalwedd, Gwe a Thelathrebu
- Cymorth Cymwysiadau Digidol
- Dylunio Dysgu Digidol
- Marchnata Digidol.
“Mae sgiliau digidol o’r radd flaenaf wedi cael eu nodi fel anghenraid allweddol ym Margeinion Dinesig Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd,” dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. “Mae galw mawr am y sgiliau hyn ledled Cymru, y DU ac yn fyd-eang. Fe wnaethon ni sefydlu’r Bwrdd Cyflogwyr Digidol i sicrhau bod ein rhanbarth yn barod i ffynnu – rydyn ni wedi gwrando ar ein partneriaid sy’n gyflogwyr ac wedi datblygu ein darpariaeth i bontio’r bwlch sgiliau go iawn sy’n ein hwynebu.
“Mae prentisiaethau’n gallu cael eu defnyddio i hyfforddi staff presennol o bob oedran (gan gynnwys arweinwyr a rheolwyr) ac maen nhw wedi’u hariannu 100%, ffaith nad yw llawer o fusnesau yn gwybod amdani mae’n debyg. Mae hyn yn rhoi cyfle enfawr i uwchsgilio gweithwyr presennol sydd ag arbenigedd digidol arbenigol, heb unrhyw gost ariannol, ac mae’n cynnig cyfle i sefydliadau fuddsoddi yn eu pobl trwy ddysgu achrededig.”
Ychwanegodd yr Athro Tom Crick MBE, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cyflogwyr y Coleg, “Mae hon yn fenter amserol gan Goleg Gŵyr Abertawe ac mae croeso mawr iddi. Mae’n adlewyrchu natur newidiol y ddarpariaeth sgiliau ac unwaith eto’n ail-gadarnhau effaith sylweddol sgiliau digidol, data a thechnoleg ar ein cymdeithas, ein diwylliant a’n heconomi. ”
“Mae’r rhaglenni prentisiaeth newydd hyn wedi cael eu datblygu ar y cyd â Bwrdd Cynghori Cyflogwyr y Coleg, yn ogystal ag ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid ar draws ystod o sectorau diwydiannol allweddol i sicrhau eu bod yn gyfoes ac yn berthnasol, gan roi cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant sylweddol i ddysgwyr yn y dyfodol.”
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y prentisiaethau hyn yn cefnogi twf yr economi ddigidol a data yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe, yn ogystal â Chymru yn fwy cyffredinol.”
Ebost: digital@gcs.ac.uk