Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru am safon uchel iechyd a lles ei staff trwy ennill gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol.
Wedi’i rhedeg gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Iach Ar Waith, y Safon Iechyd Corfforaethol yw’r nod ansawdd ar gyfer hyrwyddo iechyd yn y gweithle yng Nghymru. Mae’r safon yn cydnabod arferion da ac yn targedu materion afiechyd ataliol allweddol a blaenoriaethau Her Iechyd Cymru.
Roedd adborth gan y tîm asesu yn cynnwys sylwadau megis: “mae lles yn rhan o’r DNA yma”, “rydych chi’n gefnogol, uchelgeisiol, soffistigedig a rhagorol” ac “rydych ar y trywydd iawn i fod yn esiampl ddisglair o ran dilyn arferion ar gyfer lles”.
Dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King: “Dyn ni wrth ein boddau ar ôl ennill gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol. Mae hyn yn dyst i’r gwaith tîm, yr ymroddiad a’r cymorth ar draws y Coleg i hybu’r agenda lles.”
Dywedodd Pennaeth y Coleg, Mark Jones: “Mae iechyd a lles ein staff a’n myfyrwyr yn hollbwysig i ni yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dwi mor falch o’n staff am eu hymdrechion o ran hyrwyddo’r gwerthoedd hyn a byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar wneud hyn yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn canolbwyntio ar gynnal a hybu safon uchel iechyd a lles yn y gweithle. Eleni, roeddent wedi cefnogi, ymhlith eraill, yr ymgyrch Amser i Siarad, ymgyrch Wythnos Hydradu, Wythnos Gofal Cefn a Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu gyda Helpa Fi i Stopio Cymru. Roeddent hefyd wedi cynnal trafodaeth ar y menopos yn y gweithle gyda Nicki Williams.
Wrth symud ymlaen, rhai o’u blaenoriaethau yw’r Cynllun Teithio Gwyrdd sy’n cynnwys cynllun rhannu car, talu treuliau milltiroedd seiclo a hyrwyddo hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd i seiclwyr am ddim. Byddant hefyd yn parhau i gefnogi staff sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn y gweithle.