Mae Deb a Rebecca Harry (mam a merch) ymhlith y rhai diweddaraf i elwa o raglen gyflogadwyedd llwyddiannus y Coleg, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.
Roedd Rebecca yn astudio Cwrs Addysg Uwch a Chwrs Lefel 3 AAT gyda’r Coleg cyn iddi ymweld â Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol gyda’r bwriad o weithio fel cyfrifydd, rhyw ddiwrnod.
Ymunodd Rebecca ag ‘Academi Dyfodol’, er mwyn derbyn cymorth ar sut i wella ei sgiliau cyflogadwyedd, fel y gallai weithio yn ei phroffesiwn delfrydol. Rhaglen yw ‘Academi Dyfodol’ sy’n canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau gyfra i fyfyrwyr erbyn diwedd eu cyrsiau.
Yn ogystal â derbyn cymorth ar ysgrifennu ei CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, cafodd Rebecca hefyd well ddealltwriaeth o’r byd gyrfaol trwy gwrdd â chyflogwyr blaenllaw a ymwelodd â’r Coleg.
Cafodd ymdrechion Rebecca eu cydnabod yn gyflym wrth iddi dderbyn cyfweliadau â dau o gwmnïau mawr yr ardal – cynigiodd y ddau gwmni swydd i Rebecca. Ar ôl meddwl yn ddwys, derbyniodd Rebecca gynnig gan Gyfrifwyr Hemp.
“Mae llwyddiant Rebecca yn adlewyrchiad o’i agwedd bositif a’i brwdfrydedd, mae’n esiampl arbennig i unrhyw berson ifanc sy’n cymryd y camau cynhwynol hanfodol mewn i lwybr gyrfaol o’u dewis,” meddai Louise Depster, Ymgynghorydd Gweithlu. “Roedd hi’n amlwg ei bod hi mynd i fod yn ymgeisydd da gan fod ganddi’r holl briodoleddau mae cyflogwyr (posibl) yn chwilio amdanyn nhw.”
Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, cafodd Deb ei diswyddo o’r cwmni lle bu’n gweithio am 13 blynedd. Treuliodd Deb fisoedd yn chwilio am waith ond cafodd ei dychryn gan rai o’r ffurflenni cais manwl a chymhleth. Yn wynebu ansicrwydd diweithdra, a heb sicrhau unrhyw gyfweliadau, penderfynodd Deb ddilyn ôl traed ei merch a gweithio gyda thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol. Penderfynodd wneud hyn am ei bod eisiau derbyn cymorth ar sut i ymgeisio ar gyfer swyddi a chymorth hefyd ar sut i nodi’r sgiliau a’r rhinweddau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Yn meddu ar hyder a hunangred newydd, roedd Deb wrth ei bodd pan ddechreuodd dderbyn gwahoddiadau i gyfweliadau, ac roedd hi’n benderfynol o wneud y gorau o bob cyfle.
“Cyn mynychu’r cyfweliadau, es i ymweld â chriw Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol er mwyn ymarfer fy atebion a gwella fy nhechneg wrth ateb cwestiynau,” meddai Deb. “Roedd ateb cwestiynau mewn awyrgylch ymlaciedig yng nghwmni hwynebau cyfarwydd wedi fy helpu i baratoi’n drylwyr ar gyfer y cyfweliadau. Teimlais fy mod wedi paratoi digon ar gyfer heriau’r cyfweliadau.”
Mewn dim o amser, cynigwyd dwy swydd i Deb ac mae hi ar hyn o bryd yn edrych ymlaen at ddechreuad newydd yn gweithio mewn rôl gyllid sydd â photensial mawr o ddatblygu o fewn y rôl.
“Mae Deb yn glod iddi hi ei hun ac yn glod i’w theulu yn ogystal. Mae’n esiampl wych i unrhyw un sy’n wynebu anhawster o golli swydd,” dywedodd ei Hyfforddwr Gyrfa, Emma Wood. “Wedi bod yn ofnus ac yn nerfus am ei dyfodol, gall Deb nawr deimlo’n frwdfrydig ac yn gyffrous am ei dyfodol!”
Mae Rebecca a Deb yn rhannu’r farn bod Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi chwarae rôl hanfodol yn eu llwyddiant.