Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gyfle gwirioneddol o ennill gwobr ar ôl cael ei enwi ar y rhestr fer genedlaethol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau AAC 2019.
Cyflwynwyd dros 350 o geisiadau gan golegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr y DU ar gyfer y gwobrau a threfnir y digwyddiad gan Wythnos AB a Chymdeithas Darparu Addysg a Dysgu.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe - yr unig gynrychiolydd o Gymru – wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori. Y categori cyntaf yw gwobr y Darparwr Prentisiaethau Iechyd a Gwyddoniaeth y flwyddyn.
Mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan gyflogwyr rhyngwladol megis TaTa Steel a Vale Europe, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi datblygu llwybr prentisiaeth arloesol ar gyfer Technegwyr Labordy o lefelau 3 i 5. Mae canlyniadau’r dysgwyr sy’n dilyn Llwybr Lefel 3 wedi bod yn rhagorol. Yn 2017 a 2018, cyflawnodd bob prentis Fframwaith lawn (graddau llwyddo o 100%), sy’n sylweddol uwch na’r cymharydd cenedlaethol o 89%.
Ym mis Medi 2018, llwyddodd carfan gyfan y Coleg o Brentisiaid Uwch i symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs ac roedd y proffiliau gradd a gyflawnwyd ar y cymwysterau gwybodaeth yn rhagorol. Yn 2017, cafodd 33% o’r dysgwyr eu gwobrwyo â’r gradd proffil uchaf posib (D*D*). Cynyddodd y ffigwr hwn i 43% yn y flwyddyn ganlynol.
Mewn sector sydd fel arfer yn cael ei ddominyddu gan ddynion, mae 50% o staff y Coleg sy’n cefnogi prentisiaid yn fenywod ac mae nifer o’r rhain wedi ennill Gwobrau Cenedlaethol – bu Sally Hughes ( y diweddaraf i ennill gwobr) o Tata Steel yn llwyddiannus yn wrth iddi ennill gwobr Prentis Cymreig y Flwyddyn 2018.
“Mae’r ffaith ein bod yn datblygu prentisiaid ‘tu hwnt i’r maes llafur’ er mwyn diwallu anghenion ein cyflogwyr yn rhinwedd sy’n sicr yn dal y llygad,” meddai Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes. “Roedd angen clir a lwybrir gan y diwydiant i ddatblygu sgiliau’r prentisiaid hyd at lefel gradd, ac fel ymateb i hyn, mae’r Coleg wedi cydweithio â Phrifysgol Abertawe er mwyn creu trefniant sy’n caniatáu i’n prentisiaid uwch fwydo’n uniongyrchol i ail flwyddyn gwrs Gradd BSc Cemeg y Brifysgol. Er nad yw cynlluniau o’r fath yn anghyffredin i brentisiaid peirianneg, credwn mai dyma’r tro cyntaf i lwybr academaidd o’r fath gael ei ddatblygu ar gyfer prentisiaid cemeg yn y DU.”
Mae’r Coleg hefyd wedi ei henwi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y Cyfraniad Rhagorol i Ddatblygu Prentisiaethau, ac mae’r anrhydedd arbennig hwn yn perthyn yn uniongyrchol i arweinydd y Cwricwlwm ar gyfer Peirianneg Electronig, Steve Williams.
Mewn gyrfa o 30 o flynyddoedd, mae Steve wedi tynnu sylw’n barhaus a phwysleisio manteision prentisiaethau i ddysgwyr a chyflogwyr gyda’r nod o ddarparu dawn a thalent anghenrheidiol. Mae gweithwyr y sector gwasanaeth defnyddio trydan ac adnoddau trydanol a gosod wedi nodi eu bod mewn sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd, oherwydd prinder peirianwyr ifanc newydd.
Gyda’r her yma o fewn meddwl, cafodd Steve ei wahodd gan gyflogwyr cenedlaethol i gadeirio fforwm Hyfforddi Sgiliau Electronig Trydanol Cartref (HEEST), sy’n cynnwys sefydliadau megis Samsung, Whirlpool, Electrolux, Bosch a Panasonic. Mae’r rhanddeiliaid yma yn rhannu’r un nod – sicrhau ffyniant eu diwydiant - a chafodd Steve ei ddewis yn bersonol i gadeirio’r grŵp oblegid ei arbenigedd, ei frwdfrydedd, ei arloesedd a’i ymrwymiad i ddatblygu prentisiaid o’r radd flaenaf.
“Mae Steve yn llysgennad gwych i’r Coleg a’r sector yn ei gyfanrwydd,” meddai Paul. “Yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Hyfforddiant y DU ar gyfer WorldSkills Electronics, mae Steve wedi cydgysylltu gwaith fforwm HEEST â chystadlaethau a digwyddiadau cenedlaethol er mwyn ceisio denu prentisiaid dawnus newydd i’r diwydiant. Yn ei rôl fel arweinydd y Cwricwlwm a darlithydd, mae Steve hefyd wedi gweithio â Chymwysterau Cymru er mwyn llywio cwricwlwm prentisiaethau’r dyfodol o fewn y sector. Yn ogystal, o dan ei arweiniad, rhagorol, mae’r Coleg wedi datblygu adran peirianneg electronig lwyddiannus iawn. Wrth ysgrifennu’r enwebiad, cyfeiriodd llawer o’r rhanddeiliaid at ei bersonoliaeth odidog – Mae’n llawn haeddu bod yn un o’r tri unigolyn ledled y DU sydd wedi eu henwebi ar gyfer y wobr hon.”
Er mwyn dathlu’r ffaith bod eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer, mae cynrychiolwyr o’r Coleg wedi cael eu gwahodd i dderbyniad Seneddol Nhai’r Cyffredin ar Fawrth 4. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgeli yn y seremoni wobrwyo ym Mirmingham ar Fawrth 28.