Mae myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol yng Ngholeg y Drenewydd.
Roedd Callum East, sy’n astudio ar y cwrs Cyflwyniad i Addysg Bellach (Sgiliau Bywyd), wedi ennill y fedal Aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty – Gosod Bwrdd.
Roedd Siobhan Ashour, sy’n astudio ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gwaith, wedi sicrhau medal Efydd am ei gwaith yn y gystadleuaeth Paratoi Bwyd.
Yn astudio ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gwaith hefyd yw David Robins, a enillodd dystysgrif am ei gyfranogiad yn y gystadleuaeth Paratoi Bwyd.
Bydd Callum nawr yn symud ymlaen i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Sgiliau Cynhwysol WorldSkills UK yn NEC Birmingham ym mis Tachwedd.
“Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol mae myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol wedi cynrychioli’r Coleg yn y cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Michelle Williams. “Rydyn ni i gyd yn hynod falch o Callum, Siobhan a David. Roedd y tri ohonyn nhw yn genhadon gwych dros y Coleg drwy gydol y digwyddiad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fis Tachwedd nawr ac yn dymuno’r gorau i Callum yn y cam cyffrous nesaf o’r gystadleuaeth.”
“Rhaid i mi ddiolch yn arbennig i’r staff darlithio Sgiliau Byw’n Annibynnol Steven Lewis a Lisa Scally, a’r Hyfforddwr Lletygarwch ac Arlwyo Nicola Rees am eu holl waith caled yn cefnogi’r dysgwyr, a hefyd i’r myfyriwr Lletygarwch Paige Jones a roddodd o’i hamser ei hun i weithio gyda Callum cyn y gystadleuaeth.”