Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu Dr. Wen Cao – Deon yr Adran Ryngwladol ym Mhrifysgol Astudiaethau Tramor Beijing (BFSU) – a gyflwynodd bwnc addysg ryngwladol K-12 yn Tsieina i uwch reolwyr ac aelodau o’r bwrdd.
“Mae’r Coleg yn gobeithio sefydlu ysgol ryngwladol yn Tsieina ac felly roedd yn gyfle ardderchog i gael gwybodaeth werthfawr gan sefydliad sydd eisoes wedi sefydlu pum ysgol Safon Uwch ryngwladol yn yr ardal,” dywedodd Rheolwr yr Adran Ryngwladol Kieran Keogh.
Mae gan BFSU a Choleg Gŵyr Abertawe bartneriaeth addysgol lle mae BFSU yn anfon cohortau o athrawon dan hyfforddiant i gymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi athrawon TGAU/Safon Uwch pwrpasol. Mae’r Coleg yn disgwyl y cohort nesaf ym mis Ionawr 2019.