Mae’r drysau Ystafell Arloesedd Addysg Lego newydd sbon Coleg Gŵyr Abertawe wedi agor yn swyddogol.
Dyma’r unig ystafell addysgol o’i math yn yr ardal leol, a bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr, disgyblion ysgol a chyflogwyr i wella eu sgiliau digidol gan ddefnyddio Lego.
Ymhlith y defnyddwyr cyntaf roedd staff o dîm Gwybodeg Bwrdd Iechyd PABM a dreuliodd ddiwrnod diddorol ar Gampws Tycoch yn defnyddio Lego i hwyluso ymarferion datrys problemau ac adeiladu tîm. Roedd y Lego a ddefnyddiwyd ar y diwrnod wedi amrywio o gitiau adeiladu syml i’r llwyfan caledwedd/meddalwedd Mindstorms mwy heriol.
Dechreuodd datblygiad yr Ystafell Lego, a ariannwyd gan Raglen Blaenoriaeth Sgiliau Llywodraeth Cymru, yn dilyn argymhelliad gan yr Athro Tom Crick, a benodwyd gan y Coleg i arwain y gwaith o ddatblygu sgiliau digidol ar draws yr ardal.
Yna, roedd y Coleg wedi gweithio mewn partneriaeth â The Big Learning Company, un o’r sefydliadau dysgu ac addysgu arweiniol yn y DU, i ddatblygu’r weledigaeth hon gyda Lego’n goruchwylio hyfforddiant arbenigol staff y Coleg i ddarparu gwersi’n cynnwys llythrennedd, rhifedd, datrys problemau, codio a roboteg.
“Bydd y math hwn o hyfforddiant yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd allweddol a pherthnasol i’r dysgwyr a fydd o gymorth mawr iddyn nhw yn y gweithle,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu Bruce Fellowes. “Rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch y posibiliadau mae’r cyfleuster newydd hwn wedi eu hagor – nid yn unig annog pobl ifanc i STEM trwy ddefnyddio Lego, fformat y byddan nhw’n gyfforddus ac yn gyfarwydd ag ef, ond hefyd trwy greu mwy o gysylltiadau gyda chyflogwyr lleol sy’n gallu ei ddefnyddio fel canolfan asesu a hyfforddi.
“Yr hyn sy’n wirioneddol wych am y cyfleuster newydd hwn yw’r ffaith y gall dysgwyr ar bob lefel ei ddefnyddio – o’r rhai sydd am wella eu sgiliau hanfodol megis rhifedd/llythrennedd i fyfyrwyr AU sydd am ddatblygu eu harbenigedd codio neu beirianneg.”
Lluniau: Adrian White