Bu myfyrwyr Celf Gain Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy ffeltio gydag Vivian Rhule, sy’n artist ffelt a phrint o gyffiniau Abertawe, a chaiff ei hysbrydoli gan dirluniau a byd natur leol yn bennaf.
Bu’r gweithdy diwrnod yn gyfle i fyfyrwyr greu darnau o waith celf ffelt i’w cynnwys yn eu portffolio.
Gwnaeth y myfyrwyr greu un darn mawr o ffelt, o liwiau amrywiol iawn a fydd yn cefnogi a ffurfio syniadau newydd i brosiectau creu yn y dyfodol. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i brofi a chysylltu â gwaith gwneuthurwr proffesiynol sydd yn gweithio yn y diwydiant ffelt yng Nghymru.
Dyma rai delweddau o'r darnau a grëwyd gan y myfyrwyr yn y gweithdy.