Bu myfyrwyr Celf Gain Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy clai gydag Eluned Glyn, sy’n ddylunydd a gwneuthurwr cerameg o Gymru, a chaiff ei hysbrydoli gan ffurfiau serameg clasurol yr 20fed a’r 21ain Ganrif.
Bu’r gweithdy diwrnod yn gyfle i fyfyrwyr greu cerflunio drwy ddulliau coil, slabio clai a chreu siapiau clai gan ddefnyddio dull mowldio a slip.
Gwnaeth y myfyrwyr greu amrywiaeth o ddarnau clai a all gefnogi a ffurfio syniadau newydd i brosiectau creu yn y dyfodol. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i brofi a chysylltu â gwaith gwneuthurwr proffesiynol sydd yn gweithio yn y diwydiant serameg.