Gall myfyrwyr sy’n dechrau’r flwyddyn academaidd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wneud y gorau o amrywiaeth o gyfleusterau newydd wrth i’r Coleg barhau i wella ei fannau dysgu a chymdeithasol.
Ar Gampws Tycoch, mae myfyrwyr eisoes yn mwynhau canlyniadau buddsoddiad diweddar gwerth £4 miliwn. Mae’r llawr gwaelod newydd yn cynnwys ystafell gyffredin a siop goffi Costa yn ogystal â swyddfeydd staff sy’n canolbwyntio ar y myfyrwyr fel y timau derbyn, cyllid a chymorth gyrfaoedd. Mae’r myfyrwyr a hoffai symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 neu uwch – maes twf a datblygiad parhaus yn y Coleg - nawr yn gallu gwneud hynny yng nghysur y Ganolfan Addysg Uwch bwrpasol sy’n cynnwys ystafelloedd dosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin unigryw ar y llawr mesanîn.
Mae ailddatblygiad Campws Tycoch, sydd wedi trawsnewid blaen yr adeilad yn amgylchedd dysgu a chymdeithasol fodern, yn fuddsoddiad gwerth £1.5 miliwn gan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mewn mannau eraill yn Nhycoch, mae’r llyfrgell newydd yn cynnwys meysydd dysgu cydweithredol, stiwdio technoleg dysgu gwybodaeth, bwth acwstig a mannau astudio unigol/mewn grŵp. Yn ogystal â chynnwys y gwerslyfrau diweddaraf, mae gan y llyfrgell Wi-Fi gwell a socedi USB/pŵer wedi'u gosod yn y celfi fel y gall myfyrwyr ymchwilio i gyfoeth o adnoddau electronig ar gyfrifiaduron a gliniaduron y Coleg neu ar eu dyfeisiau eu hunain.
Ar Gampws Gorseinon, bydd myfyrwyr yn gallu ymlacio cyn bo hir yn y Cwtsh Coffi newydd sbon - estyniad gwerth £2m i'r ffreutur sy'n cynnwys siop goffi Costa a lle ysgafn a dymunol i fyfyrwyr ymlacio rhwng dosbarthiadau a chael rhywbeth i fwyta.
Mae’r nodweddion newydd hyn yn ychwanegol at gyfleusterau sefydledig y Coleg megis y Ganolfan Chwaraeon - sy'n cynnig cyfraddau aelodaeth rhatach i fyfyrwyr - y salonau a'r sba sydd ar gael yng Nghanolfan Broadway, a bwyty hyfforddi’r Vanilla Pod.
Yn sôn am yr ailddatblygiadau, dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni wrth ein bodd bod ein myfyrwyr yn gallu profi’r amgylcheddau gweithio, dysgu a chymdeithasol newydd rydyn ni wedi'u creu i wneud eu hamser yn y Coleg mor bleserus â phosibl. Rydyn ni’n credu bod y cyfleusterau newydd yn adlewyrchu nod y Coleg i ddarparu’r sbardun sydd ei angen ar fyfyrwyr i lwyddo a chyflawni eu potensial.
“Rydyn ni’n cydnabod bod y cam o’r ysgol i’r coleg yn un tra phwysig a dyna pam rydyn ni wedi treulio cryn amser ac wedi rhoi cryn feddwl i greu’r lleoedd hyn a hefyd yn cynnig tîm gofal bugeiliol a all gefnogi myfyrwyr trwy’r cyfnod hwn.
“Er ei fod yn gyfnod cyffrous o newid, rydyn ni’n deall hefyd y gall fod yn adeg heriol a difyr. Mae’r broses sefydlu yn hynod bwysig i ni ac rydyn ni’n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael tiwtor personol y bydd yn cadw mewn cysylltiad agos â nhw yn ystod eu cyfnod gyda ni. Mae gyda ni arbenigwyr yma hefyd i gefnogi myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau ac anghenion penodol, h.y. gofalwyr ifanc.
“Mae sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth yn emosiynol ac yn feddyliol yr un mor bwysig i ni â sicrhau llwyddiant addysgol. Dyna pam rydyn ni wedi neilltuo adnoddau sylweddol i fuddsoddi mewn a chreu mannau cymdeithasol newydd yn y Coleg oherwydd rydyn ni’n cydnabod eu bod yr un mor bwysig i’r myfyrwyr a’u lles â’r cyfleusterau academaidd a gynigiwn. Rwy’n edrych ymlaen at wylio ein cohort newydd o fyfyrwyr yn ymgartrefu ac yn gwneud cynnydd dros y ddwy flynedd nesaf a thu hwnt.”