Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Efydd Safon Iechyd Corfforaethol am ei ymroddiad i ddarparu mentrau iechyd a lles i'w staff.
Mae'r Safon Iechyd Corfforaethol yn rhan o raglen Cymru Iach ar Waith ac yn farc ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle.
Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, bu ystod o ddigwyddiadau sy'n canolbwyntio ar staff, megis seremoni wobrwyo gwasanaeth hir ar gyfer y rhai sydd wedi gweithio yn y Coleg ers dros 20 mlynedd, a pharti dathlu i gydnabod arolygiad cadarnhaol Estyn.
Bu digwyddiadau codi arian ar draws y Coleg hefyd fel Diwrnod Siwmperi Nadolig ac Ar Eich Traed Brydain, lle mae’r holl aelodau staff wedi cael eu hannog i gymryd rhan a chael hwyl.
Yn ystod diwrnod iechyd a lles yn ddiweddar, roedd oddeutu 300 aelod o staff wedi mwynhau gweithgareddau am ddim, gan gynnwys wal ddringo, tenis bwrdd, swingball, cylchyn hwla, teithiau cerdded, gwersi dawns a sesiynau tiwtorial colur.
Yn ystod cyfres o ymweliadau â'r Coleg, yr hyn a greodd argraff fawr ar aseswyr y Safon Iechyd Corfforaethol oedd lefel ymgysylltu y rheolwyr a’r staff yn y gweithgareddau hyn ac angerdd a gweledigaeth y grŵp llywio a fu’n gyfrifol am yrru'r fenter hon yn ei blaen.
“Roedd eu hadborth yn ganmoliaethus iawn,” meddai Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Sarah King. “Roedden nhw’n teimlo bod ‘na naws gynnes a theuluol i’r Coleg. Dywedodd un o'r aseswyr hyd yn oed y bydden nhw’n hoffi gweithio yma eu hunain, ac roedd hyn yn ganmoliaeth fawr i ni. Rydyn ni’n falch ein bod ni wedi ennill gwobr Efydd ac, yn y flwyddyn academaidd nesaf, byddwn ni’n edrych i ddatblygu ein llwyddiant ymhellach gyda golwg ar ennill gwobr Arian yn y dyfodol agos.”
Lluniau: Peter Price Media