Mae Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones, wedi’i enwi fel terfynwr yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.
Mae Gwobrau Arwain Cymru 2018 – mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth – wedi cyhoeddi rhestr fer eleni a chynhelir eu cyfweliadau beirniadu ddydd Iau 12 Gorffennaf.
Enwebwyd Mark yn y categori Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus am ei rôl fel Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gŵyr Abertawe – sef un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru – ac mae’n un o ond pedwar terfynwr yn y categori.
Wrth drafod y newyddion, meddai’r Pennaeth Mark Jones: “Er fy mod i wrth fy modd i fod ar rhestr fer y wobr genedlaethol hon, mae hyn ond yn dystiolaeth o ymrwymiad ac ymroddiad staff addysgu a chefnogi ar draws y Coleg. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llwyddiannus iawn i’r Coleg a’n myfyrwyr ac nid yw llwyddiant fel hwn yn dod heb ymdrech tîm enfawr ac rwyf yn ddiolchgar iawn am hyn.”
Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ysbrydoli Arweinyddiaeth Wych. Dyma wobr sefydliadol sy’n cydnabod strategaethau ymgysylltu llwyddiannus megis ysbrydoli datblygiad sgiliau arwain staff.
Meddai Barbara Chidgey, Cadeirydd Gwobrau Arwain Cymru, “Os oedd erioed adeg i arweinyddiaeth sy’n trawsnewid yr hyn a wnawn, mae’r adeg honnon’n bendant wedi cyrraedd wrth i ni geisio trawsnewid llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac adeiladu’r Gymru a Garem o ddifrif. Am y rheswm hwn, chwiliodd Gwobrau Arwain Cymru 2018 am enwebedigion y mae eu harweinyddiaeth yn ysbrydoledig ac sy’n gwneud gwir gwahaniaeth yng Nghymru, gan gyfrannu at drawsnewid eu cymuned, eu busnes neu eu sefydliad.
“Mae’r rhestr fer yn adlewyrchu safon uchel iawn ac amrywiaeth eang o arweinwyr sy’n gweithio ym mhob sector ledled Cymru.
“Ar ran Consortiwm Gwobrau Arwain Cymru, hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor galed i enwebu a rhannu enghreifftiau mor disglair o “Arweinwyr yng Nghymru”. Mae’n edrych fel blwyddyn gyffrous arall i unig wobrau arweinyddiaeth Cymru.”
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo dros ginio a gynhelir yng Nghaerdydd ddydd Iau 27 Medi.
Gellir gweld rhestr fer eleni yn https://leadingwalesawards.wales/2018-leading-wales-awards-finalists/
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://leadingwalesawards.wales/
DIWEDD
Cyswllt y Wasg:
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Arwain Cymru, cysylltwch ag Alex McArthur drwy ffonio 0117 2140471 neu e-bostio alex@mcarthur-davies.co.uk