Gyda myfyrwyr ar draws Abertawe ar fin cwblhau her fwyaf eu taith addysgol hyd yn hyn – arholiadau TGAU – nis oes amser gwell na nawr i feddwl am y dyfodol. I’r rhai ohonoch fydd wedi cwblhau eich arholiadau ym mis Mai a mis Mehefin, peidiwch â thynnu’ch troed oddi ar y sbardun! Efallai eich bod yn teimlo rhyddhad ar ôl cwblhau’r arholiadau ac nid oes unrhyw awydd gennych i feddwl am y camau nesaf yn eich bywydau academaidd, ond mae’r cyfnod cyn diwrnod y canlyniadau yn gyfle perffaith i ystyried beth i’w wneud nesaf.
Mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe yma i drafod pam mae'n well i fyfyrwyr Abertawe ddechrau ystyried opsiynau astudio cyn gynted â phosibl.
I fyfyrwyr ar draws Abertawe, mae'r haf yn cynnig cyfnod byr o seibiant o'r holl ymdrechion sydd wedi cael eu hymrwymo i adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau. Er y bydd myfyrwyr yn cymryd seibiant haeddiannol o waith adolygu, nid oes amser gwell nawr i ddechrau meddwl am ble y bydd eich bywyd academaidd yn mynd â chi nesaf.
Mae penderfynu ar ba lwybr astudio i’w ddilyn yn rhagolwg brawychus y mae angen ei ystyried yn ofalus. Mae nifer o lwybrau ar gael i'w dilyn, megis coleg, aros yn yr ysgol neu fynd yn syth i fyd gwaith, a chyn gynted ag y bydd myfyrwyr yn Abertawe yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael, y mwyaf tebygol y byddant yn gwneud y penderfyniad cywir.
Dylai'r penderfyniad hwn gael ei arwain gan eich nodau a'ch dyheadau gyrfaol. I'r rhai ohonoch sy'n glir ynghylch yr hyn yr hoffech ei wneud, neilltuwch amser i ymchwilio i'r ffordd orau o gyrraedd yno. Er enghraifft, os hoffech astudio peirianneg yn y Brifysgol bydd rhaid i chi fynd i sefydliad sy'n cynnig Safon Uwch mewn pynciau fel ffiseg, mathemateg a mathemateg bellach. Un peth pwysig i'w ystyried yw y gall dewisiadau pwnc, lefelau cymhwyster a deilliannau (o ran proffiliau gradd) amrywio'n sylweddol rhwng colegau ac ysgolion gwahanol. Ar draws Abertawe, mae amrywiaeth eang o gymwysterau hefyd o Safon Uwch a chymwysterau NVQ i brentisiaethau â thâl, pob un â'u manteision eu hunain. Pa un bynnag lwybr y byddwch chi'n penderfynu ei ddilyn, cofiwch gofrestru ar gwrs sy'n gweddu i'ch anghenion dysgu.
Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr ynghylch pa broffesiwn yr hoffech ei ddilyn (mae hyn yn iawn yn eich oedran chi), dylech ddewis rhywle sy'n gweddu i'ch cryfderau academaidd a'ch diddordebau i wneud y mwyaf o'ch siawns o lwyddiant. Mae'n bwysig ystyried pa bynciau neu gwrs yr hoffech chi eu hastudio, gan eich bod yn fwy tebygol o lwyddo ar gwrs rydych chi'n ei fwynhau. Mae colegau'n lleoedd gwych i'w hystyried oherwydd mae yna rywbeth i bawb ac yma fe welwch gyfleusterau a phrofiadau sy'n debyg i'r rheiny yn y Brifysgol – dyma ffordd wych o baratoi os ydych yn bwriadu symud ymlaen i addysg uwch ar ôl y coleg.
Yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn gweithio'n gyson i wella ein cyfleusterau dysgu a'r profiad cymdeithasol y mae ein myfyrwyr yn ei fwynhau. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau o arlwyo a lletygarwch i fusnes, cyfrifeg, cyfraith a thechnoleg ddigidol. Mae ein mannau dysgu byth a hefyd yn datblygu ac mae campws Tycoch y coleg wedi cael ei ailddatblygu'n fawr yn ddiweddar, gan drawsnewid y gofod yn hyb cymdeithasol a dysgu modern. Mae’r prosiect wedi cyflwyno derbynfa newydd, ystafell gyffredin, siop goffi a lle ar gyfer yr ystod lawn o wasanaethau cymorth ac arweiniad sydd ei hangen ar ein myfyrwyr.
Yn dilyn cyfnod o ailwampio sylweddol, bellach mae’r coleg yn cynnwys Canolfan Addysg Uwch, mwy o ystafelloedd dosbarth a llyfrgell newydd sbon. Mae agoriad y llyfrgell wedi trawsnewid campws Tycoch yn lle gwirioneddol arloesol ar gyfer dysgu gyda chyfleusterau sy'n ddelfrydol ar gyfer cydweithio neu weithio ar eich pen eich hun. Pa bynnag gwrs rydych chi'n bwriadu cofrestru arno, gall y llyfrgell hwyluso anghenion dysgu amrywiol ein myfyrwyr.
Mae'r datblygiadau hyn yn golygu, fel coleg addysg bellach, y gallwn ddarparu hyfforddiant ac addysg dechnegol a phroffesiynol o safon uchel i fyfyrwyr yn ogystal â gwella agwedd gymdeithasol y coleg. Efallai y bydd llawer ohonoch yn teimlo ychydig yn bryderus am ffrindiau yn dilyn trywydd gwahanol ac yn mynd i sefydliadau gwahanol peidiwch â phryderu - mae coleg neu chweched dosbarth yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd. Rydym yn deall pwysigrwydd cymdeithasu yn y coleg ac rydym wedi gwneud ymdrechion i wella faint o le cymdeithasol sydd ar ein campws yng Ngorseinon trwy ychwanegu estyniad i'r siop goffi. Bydd hyn yn darparu mwy o le i fyfyrwyr gwrdd â ffrindiau - newydd ac hen - i ddal i fyny dros ddiod ac ymlacio rhwng dosbarthiadau.
Pa bynnag lwybr rydych chi'n penderfynu ei gymryd, credaf ei bod yn hanfodol eich bod yn defnyddio misoedd yr haf i ymchwilio i bob opsiwn sydd ar gael i chi. Drwy hyn, rwy'n golygu gwneud mwy na chwilio ar y We - ewch allan i ymweld â chweched dosbarthiadau neu golegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Siaradwch â myfyrwyr presennol / cyn-fyfyrwyr a staff i weld beth sydd ganddynt i'w ddweud. Defnyddiwch eich amser i gael profiad gwaith gwerthfawr, bydd hyn nid yn unig yn gwneud eich penderfyniad yn haws ond bydd hefyd yn eich helpu pan fyddwch chi'n bwriadu dechrau'ch gyrfa. Gwnewch y gorau o'r amser sydd gennych cyn diwrnod y canlyniadau.
Yn y pen draw, eich penderfyniad chi yw hyn oll a beth bynnag y byddwch chi'n penderfynu ei wneud, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dymuno'r gorau i chi ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gobeithio y cewch chi’r graddau rydych i gyd wedi gweithio mor galed i'w cael ac rydym yn canmol yr holl amser ac ymdrech rydych wedi’i ymrwymo i’r arholiadau eleni. Cofiwch ymlacio yn ystod yr haf ond neilltuwch rywfaint o’ch amser ar gyfer gwaith ymchwil gwerthfawr fydd yn sicrhau eich bod yn darganfod yr opsiynau gorau ar gyfer y dyfodol.