Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu blwyddyn lwyddiannus arall o chwaraeon gyda seremoni wobrwyo arbennig yn Stadiwm Liberty.
“Yn 2017/18, gwelwyd llwyddiannau anhygoel gan ein myfyrwyr ar draws pob lefel chwaraeon,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Marc O’Kelly. “Mae uchafbwyntiau’n cynnwys ein tîm Pêl-droed X1 Cyntaf yn cadw Cwpan Cymru ar ôl curo Coleg Llandrillo 5-0, ein Hacademi Rygbi Merched yn ennill cwpan y Gweilch dan 18 i gyd-fynd â’u buddugoliaeth Colegau Cymru a’n Hacademi Pêl-rwyd - enillwyr Gwobr Chwaraeon Abertawe - a gymerodd ran yn Ras Gyfnewid Baton y Frenhines Gemau’r Gymanwlad yn Abertawe.”
“Mae’n wirioneddol bwysig casglu’r myfyrwyr hyn at ei gilydd a dathlu’r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn anhygoel. Rydyn ni’n wirioneddol falch o’u cyflawniadau - maen nhw wedi bod yn llysgenhadon gwych i’r Coleg gartref a dramor.”
Ymhlith yr enillwyr unigol roedd:
Chwaraewraig y Flwyddyn Alex Callender - Pêl-rwyd Cymru o dan 21 a Rygbi Rhyngwladol Colegau Cymru. Yn ddiweddar, roedd y myfyriwr Alex, a’i chyd-chwaraewr Niamh Terry, wedi ennill medal Efydd yn y Pencampwriaethau AoC Cenedlaethol.
“Mae Alex yn fenyw ifanc ymroddedig a brwdfrydig iawn sydd bob amser yn ceisio gwneud ei gorau glas ym mhob peth mae hi’n ei wneud,” dywedodd y darlithydd Sarah Lewis. “Mae hyn yn amlwg yn ei llwyddiannau chwaraeon hi – nid yn unig mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn pêl-rwyd ond mae hi hefyd yn Is-gapten i’r Sgarlets. Mae Alex hefyd yn rhan o Garfan Hyb Perfformio Gorllewin Cymru, Carfan Gorllewin Cymru dan 18, Academi Pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe, tîm dethol Colegau Cymru a thîm pêl-rwyd lleol yn Abertawe a Llanelli.”
Roedd Chwaraewr y Flwyddyn Patrick Langdon-Dark wedi ennill cystadleuaeth Syrffio Nos dan 18 y DU 2017 yn Newquay, ac mae wedi cynrychioli Cymru ar lefel uwch ym Mhencampwriaethau Ewrop. Mae wedi cael ei alw yn ‘dalent syrffio gorau y DU ar gyfer y dyfodol’ ar ôl cael ei goroni yn bencampwr Taith Syrffio Broffesiynol y DU dan 18.
“Rhwng teithiau i Galiffornia, Portiwgal, Ffrainc, Sbaen a Norwy, mae Patrick wedi gweithio’n galed ochr yn ochr â’i dîm addysgu cefnogol i gadw i fyny â’i waith coleg ac mae’n debyg o gwblhau ei gymhwyster Gwyddor Chwaraeon ym mis Mehefin,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu Marcus Westmoreland.
Mae Patrick, sydd wedi derbyn bwrsari chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, yn gobeithio bod yn aelod amser llawn o daith Cynghrair Syrffio’r Byd pan fydd yn cwblhau ei gymwysterau.
Mae academïau chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael y cymwysterau academaidd gorau a pherffeithio eu sgiliau chwaraeon ar yr un pryd trwy ganiatáu iddynt ymgorffori hyfforddiant chwaraeon a ffitrwydd elit yn eu profiad dysgu.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon sy’n rhoi cymorth ariannol a chyfannol i fyfyrwyr sy’n dangos gallu eithriadol yn un o’r chwaraeon academi.
Mae’r Coleg wedi cynhyrchu chwaraewyr sydd bellach yn adnabyddus ledled y byd - mewn gwirionedd, byddai unrhyw un a welodd Gemau’r Gymanwlad yn ddiweddar ar y teledu wedi gweld y cyn-fyfyrwyr Jazz Carlin (yn cynrychioli’r DU mewn nofio a chwifio’r faner), Beth Bingham (hoci) a Justin Tipuric (rygbi o dan 7).
DIWEDD
Lluniau: Peter Price Media