Mae tri entrepreneur ifanc lleol wedi cael hwb busnes diolch i Gronfa Hadau Abertawe.
Mae Lucy Parker, Rhiannon Picton-James a Geraint Vaughan wedi derbyn £500 yr un i helpu i ehangu eu brandiau.
Mae Lucy wedi datblygu busnes ffotograffiaeth ffyniannus ac mae eisoes wedi cael nifer o gomisiynau ar gyfer portreadau teuluol a phriodasau. Ei huchelgais yw gweithio’n amser llawn yn y diwydiant priodasau a gwneud delweddau cofiadwy y gall ei chleientiaid eu trysori am byth.
“Mae diddordeb mawr gyda fi mewn ffotograffiaeth a dwi wrth fy modd yn gweld wynebau fy nghleientiaid pan fyddan nhw’n gweld eu lluniau,” dywedodd Lucy. “Byddwn i wrth fy modd yn gweithio’n amser llawn ar fy musnes a bydd yr arian o Gronfa Hadau Abertawe yn fy helpu ar fy nhaith i adeiladu busnes llwyddiannus.”
Mae Rhiannon wedi sefydlu safle adwerthu dillad retro / ddoe o’r enw Lost and Famous. Wedi’i hysbrydoli gan steil a diwylliant Los Angeles, mae Rhiannon yn ffasiwnista awyddus gyda diddordeb mawr mewn ffasiwn o’r 90au. Dechreuodd ei busnes ddwy flynedd yn ôl trwy uwchgylchu darnau ddoe a’u gwerthu ar-lein ac yn gwneud elw.
Mae Rhiannon, sydd wedi cael ei mentora gan Reolwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe Sue Poole, yn dweud: “Heb gymorth a help Cronfa Hadau Abertawe fyddwn i ddim yn gallu troi fy hobi yn fusnes ffyniannus.”
Y trydydd entrepreneur i dderbyn siec o £500 yw Geraint Vaughan y mae ei gwmni cynhyrchu fideos eisoes wedi sicrhau archebion gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llywodraeth Cymru ac EFOD, elusen wedi’i lleoli yn Wganda wledig.
"Dwi bob amser wedi cael uchelgais i berchen ar fy nghwmni fy hunan a bod yn fos arna i fy hunan,” dywedodd. “Gyda’r cymorth dwi wedi ei gael gan Sue, Academi Entrepreneuriaeth Cymru a Chronfa hadau Abertawe, mae hyn bellach yn realiti.”
Sefydlwyd Cronfa Hadau Abertawe gan y Ganolfan Addysg Entrepreneuraidd i feithrin pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed wrth iddynt ddatblygu eu syniadau o’r camau cynnar - ac o bosib – i ddechrau busnes llwyddiannus.
“Mae’r entrepreneuriaid hyn eisoes wedi dangos uchelgais ac ysgogiad enfawr a dyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n gallu eu helpu nhw wrth iddyn nhw adeiladu eu cwmnïoedd o’r dechrau,” dywedodd Sue Poole.
DIWEDD