Mae myfyrwyr ar Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle cynnar i gymryd rhan yn Academi Radio 1 y BBC 2018.
Mae’r Academi’n dod i Theatr y Grand Abertawe ym mis Mai i roi dulliau, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i bobl ifanc er mwyn llwyddo mewn gyrfa greadigol.
Cafodd y myfyrwyr brofiad o weithdy Cwestiynau ac Atebion gyda’r DJ Katie Thistleton o Radio 1 y BBC a chyflwynwyr Newsbeat, Steffan Powell (sy’n dod o Rydaman yn wreiddiol) a Roisin Hastie. Siaradodd y cyflwynwyr am eu bywydau fel newyddiadurwyr yn Radio 1, y bobl enwog y maent wedi cyfweld â nhw a sut i adnabod ‘newyddion ffug’.
“Roedd yn wych i ddod adref i Abertawe a rhannu fy mhrofiadau o weithio i Newsbeat Radio 1 a’m bywyd fel newyddiadurwr y BBC,” medd Steffan Powell. “Wrth dyfu i fyny rownd y gornel yng Nghwmaman, roeddwn i’n teimlo nad oedd swyddi fel hyn yn bosib i bobl fel ni yn ne Cymru ac felly roedd yn wych i siarad â myfyrwyr ac esbonio iddynt y gallant lwyddo i wneud unrhyw beth a ddymunant os ydynt yn benderfynol. Mae’n grŵp hynod ddisglair a ofynnodd cwestiynau craff. Bydd Academi lawn y BBC ym mis Mai yn ffordd wych iddynt roi’r hyn a drafodwyd gennym ar waith a chael profiad uniongyrchol ac ymarferol.”
“Roedd hyn yn gyfle ardderchog i’n dysgwyr y celfyddydau creadigol glywed mwy am y diwydiant cyfryngau,” ychwanega Rheolwr Maes Dysgu Lucy Hartnoll. “Cawsant yn sicr eu hysbrydoli gan gyflwynwyr Radio 1 a roddodd fewnwelediad go iawn iddynt i’r diwydiant, gan gynnwys yr heriau y maent yn eu hwynebu, yn ogystal â’r ochr fwy gyffrous i’r swyddi. Roedd yn gyffrous i ni fel coleg gynnal y digwyddiad hwn a byddwn yn bendant yn annog ein dysgwyr i gymryd rhan yn Academi Radio 1 ar ddiwedd mis Mai.”
“Cefais amser gwych yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn siarad â myfyrwyr ynghylch gweithio ym meysydd radio a newyddiaduraeth,” medd Katie. “Roeddent mor frwdfrydig ac yn gofyn cwestiynau gwych.”
Bydd Katie’n dychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe ar 21 Ebrill ar gyfer digwyddiad arall i baratoi ar gyfer yr Academi a fydd ar agor i fyfyrwyr a’r cyhoedd. Bydd hefyd yn cydgyflwyno sesiwn Life Hacks Radio 1 gyda’r DJ Cel Spellman ar thema hyder, gyda pherfformiadau cerddorol byw gan Tom Grennen a gwesteion arbennig eraill.
Bydd y DJ Matt Edmondson o Radio 1 hefyd yn galw heibio ac yn darlledu ei sioe brynhawn Sadwrn yn fyw o gampws Tycoch ar yr un pryd. Bydd Matt eisoes wedi cyflwyno gweithdy'r diwrnod cynt cyn rhoi mewnwelediad i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i’r broses cynhyrchu sioe radio a rhoi cyfle iddynt gael rhai o’u syniadau wedi’u darlledu’n fyw.
“Rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at ddychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe gyda Tom gan fy mod i’n gwybod bod yna gerddorion addawol iawn yn y coleg,” medd Katie. “Bydd yn llawn cyffro ar gampws Tycoch, felly gwela i chi yna!”