Er mwyn cyd-fynd ag ymgyrch genedlaethol ‘2018: Blwyddyn Peirianneg’, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau a sesiynau rhyngweithiol yn ddiweddar gan Goleg Gŵyr Abertawe i fyfyrwyr sy’n dymuno cael gyrfa yn y sector arloesol hwn, gan ganolbwyntio ar y cyfleoedd cyffrous a fydd ar garreg drws yn y dyfodol agos!
Cyflwynwyd y digwyddiad cyntaf gan Paul Kift, sef Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes y Coleg ar gampws Gorseinon. Cafwyd siaradwyr gwadd a oedd yn cynnwys y Pennaeth, Mark Jones, Ioan Jenkins (Cyfarwyddwr Datblygu Tidal Lagoon Power), yr Athro Karen Holford (Llysgennad y DU ar gyfer Blwyddyn Peirianneg a Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd), yr Athro Chris Arnold (Prifysgol Abertawe) a’r Athro Graham Howe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).
“Roedd hyn y gyfle hynod ddiddorol i’n myfyrwyr gael clywed yn uniongyrchol gan unigolion allweddol yn y diwydiant a gofyn cwestiynau am y mathau o lwybrau gyrfa ac academaidd y gallent eu dilyn,” medd Paul.
“Roedd y sgyrsiau’n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, o fanteision Bargen Ddinesig Bae Abertawe i’r cyfleoedd cyffrous sydd ar y gweill gyda’r Morlyn Llanw i bobl ifanc yn y diwydiannau peirianneg ac adeiladu. Gan bwysleisio’r galw uchel tebygol ar gyfer gweithlu lleol medrus, trafododd ein siaradwyr gwadd dwf prentisiaethau gradd sy’n cyfuno gweithio a dysgu. Roedd hefyd yn ddiddorol iawn glywed gan yr Athro Holfold a siaradodd am ei phrofiadau hithau fel menyw mewn diwydiant sy’n parhau i fod yn wrywaidd iawn.”
Yn dilyn y cyflwyniadau, gwahoddwyd y myfyrwyr i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, a oedd yn arddangos car myfyriwr Formula No 1 a oedd wedi’u helpu i fod y tîm cyntaf yn y DU i ennill y digwyddiad Formula Student UK breintiedig, ynghyd â myfyrwyr STEM Coleg Gŵyr Abertawe a fu’n arddangos eu hargraffiad 3D ar ffurf model roced.
Yn y prynhawn, cynhaliwyd sesiynau gwybodaeth gan y Coleg dan arweiniad James Collins, sef Is-arlywydd y Gangen Smentio Maes Olew yn Halliburton, a Shaun Kologinczak, Rheolwr Strategaeth y cwmni, at sylw myfyrwyr sy’n dymuno dilyn pynciau megis peirianneg a daeareg yn y brifysgol.
Mae James yn gyn-fyfyriwr y coleg, gan gwblhau Safon Uwch mewn mathemateg, ffiseg a daeareg cyn symud ymlaen i Southampton i astudio Peirianneg Fecanyddol.
Hefyd, cafodd myfyrwyr peirianneg ac adeiladu ar gampws Tycoch eu gwahodd i seminar gydag Ioan Jenkins lle rhoddwyd mewnwelediad ganddo i gyfleoedd swyddi yn y meysydd hyn yn ardal Abertawe, yn y rhanbarth ac yn y byd ehangach.
“Mae’r coleg wrth ei fodd i weithio gydag Ioan a’r tîm Morlyn Llanw er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm a gynigir gennym yn gallu arfogi gweithlu’r dyfodol gyda’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy â thâl da, boed hynny yn Abertawe neu dramor,” medd Deon y Gyfadran, Hayley Thomas. “Cafwyd llawer o gwestiynau gan y myfyrwyr ynghylch cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol ac roedd yn wych i’w gweld yn ymddiddori’n frwdfrydig gydag Ioan a’n holl siaradwyr yn ystod y digwyddiadau arbennig hyn.”