Agorwyd prosiect ailddatblygu newydd sbon gwerth £4 miliwn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn swyddogol gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Buddsoddwyd £1.5 miliwn gan Raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn y prosiect ailddatblygu, ac mae wedi trawsnewid blaen Campws Tycoch yn lle dysgu a chymdeithasol modern.
Mae gan y llawr isaf dderbynfa newydd sbon, ystafell gyffredin i fyfyrwyr a siop goffi fasnachol, yn ogystal â swyddfeydd pwrpasol i fyfyrwyr, megis derbyn, cyllid a chyngor gyrfaoedd.
Ar yr ail lawr, ceir Canolfan Addysg Uwch wedi’i theilwra’n bwrpasol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau safon uwch, sef maes sy’n tyfu ac yn datblygu’n barhaus yn y Coleg. Mae gan y llawr mesanîn chwe ystafell ddosbarth newydd sbon, llyfrgell ac ardal ystafell gyffredin.
“Rwyf wrth fy modd gyda’r ailddatblygiad a fydd yn rhoi amgylchedd dysgu a chymdeithasol newydd sy’n addas i’r 21ain ganrif i’n holl fyfyrwyr,” medd y Pennaeth, Mark Jones. “Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan ohono, o’n tîm ystadau i’r contractwyr a’r dylunwyr. Maent wedi gweithio’n eithriadol o galed ar bob cam o’r prosiect uchelgeisiol iawn hwn. Rwyf yn hyderus y bydd safon dylunio a gorffen yr adeilad yn creu argraff dda iawn ar ymwelwyr i’r adeilad newydd. Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl staff a myfyrwyr sydd wedi dioddef anghyfleustra anochel yn deillio o’r tân a gafwyd dros flwyddyn yn ôl.”
Am y Ganolfan Addysg Uwch, mae Mark yn parhau, “Er mwyn gwella Cynnyrch Mewnwladol, mae’n rhaid i Gymru greu mwy o swyddi â chyflog uwch ac, er mwyn gwneud hynny, mae angen i’r sector addysg ddarparu mwy o gyfleoedd dysgu hyblyg, yn enwedig ar lefelau 4 a 5. Mae hyn yn gyfle delfrydol i golegau addysg bellach fel ni sydd â chwricwlwm galwedigaethol cryf, cyfraddau dilyniant cryf o Lefel 3 a pherthnasoedd ardderchog gyda chyflogwyr a’n partneriaid AU. Mae ein darpariaeth AU yn tyfu’n barhaol ac mae’n bwysig cefnogi’r twf hwn drwy ddatblygu cyfleusterau arbenigol.”
“Rwyf yn sicr fy mod i’n siarad ar ran yr holl fyfyrwyr wrth ddweud fy mod i wir wrth fy modd gyda’r cyfleusterau newydd ar Gampws Tycoch,” medd Llywodraethwr Myfyriwr Chloe Harries, sy’n astudio tuag at Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Busnes a Chyfrifeg yn y Coleg ar hyn o bryd. “Bydd y lle newydd yn galluogi myfyrwyr i ddysgu mewn amgylchedd gweithio mwy arloesol ac mae yna le cymdeithasol gwych i fyfyrwyr ei fwynhau.”
Meddai’r Gweinidog, “Mae’n bleser i fod yn Abertawe heddiw i agor Campws Tycoch ar ei newydd wedd a bod yn y fan a’r lle i weld effaith gadarnhaol buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar addysg a dysgu yn yr ardal.
“Cenhadaeth genedlaethol y llywodraeth hon yw codi safonau, lleihau’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol. Mae ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn chwarae rôl allweddol yn hyn a dyma’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 1960au.”