Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn barod i gynnal digwyddiad brecwast busnes arbennig lle y gall cyflogwyr gael gwybod mwy am effaith Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Caiff y digwyddiad, sy'n cyd-fynd ag Wythnos Prentisiaethau Cymru 2018, ei gynnal yn Stadiwm Liberty ar 8 Mawrth.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad £1.3bn wedi'i warantu gan Ddinas-Ranbarth Bae Abertawe ar gyfer 11 o brosiectau mawr ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'r Fargen Ddinesig yn cynnwys cyllid o'r DU a Llywodraethau Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
“Disgwylir i Fargen Ddinesig Bae Abertawe greu tua 10,000 o swyddi ac ysgogi bron £1.3bn o fuddsoddiad yn yr ardal dros y 15 mlynedd nesaf,” dywedodd Cyfarwyddwr Sgiliau a Datlbygu Busnes y Coleg, Paul Kift. “Wythnos Prentisiaethau Cymru yw'r amser delfrydol i siarad â chyflogwyr am y cyfleoedd a gynigir gan y Fargen, y gofynion a ragwelir yn yr ardal o ran doniau, a phwysigrwydd cyflenwi sgiliau a doniau trwy brentisiaethau.”
Brian Meechan, gohebydd busnes BBC Wales a chyflwynydd rhaglen BBC Radio Wales at Work fydd yn cyflwyno’r digwyddiad.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, a Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, a bydd panel o arbenigwyr yn ymuno â nhw sy'n cynnwys Ioan Jenkins, Cyfarwyddwr Datblygu Tidal Lagoon Power a'r Athro Tom Crick MBE, Athro Cyfrifiadureg a Pholisi Cyhoeddus.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 8am-10am. E-bostiwch carolyn.hughes@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400 i gadw eich lle.
Mae'r Rhaglen Prentisiaethau yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.