Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Dirprwy Bennaeth a Chyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes newydd sbon.
Dechreuodd Nick Brazil ei rôl newydd fel Dirprwy Bennaeth ym mis Ionawr. Ymunodd â’r Coleg am y tro cyntaf fel darlithydd Chwaraeon/Addysg Gorfforol yn 1993. Wedyn cafodd ei benodi’n Rheolwr Cymorth Cwricwlwm, yn Gyfarwyddwr Cyfadran ac yna, yn Ddeon Cyfadran – arhosodd yn y rôl honno am saith mlynedd.
Fel Deon Cyfadran, roedd Nick yn goruchwylio tri maes dysgu mawr – Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol, Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a Busnes a Thechnoleg, yn ogystal ag ysgwyddo cyfrifoldeb uwch reoli am holl ddarpariaeth Safon Uwch y Coleg, a’r maes eang, trawsgolegol Cymorth Dysgu.
“Dwi wir yn edrych ymlaen at greu’r dyfodol mewn coleg dynamig ac arloesol sy’n symud yn gyflym,” dywedodd Nick. “Dwi’n falch o fod yn aelod o staff CGA a dwi am barhau i weithio gyda’m cydweithwyr i wneud yn siŵr ein bod ni’n darparu rhagoriaeth ac effaith i bob un o’n dysgwyr.”
Mae Paul Kift wedi ymuno â’r Coleg fel Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes a’i ffocws cyntaf oll fydd prentisiaethau a datblygiad strategol Hyfforddiant GCS – braich hyfforddi busnes Coleg Gŵyr Abertawe. Bydd Paul hefyd yn arwain adrannau Cyllid Allanol a Rhyngwladol y Coleg.
Yn gyn-fyfyriwr ar gampws Gorseinon, aeth Paul ymlaen i wneud swyddi uwch reoli gan weithredu ar draws y DU, Ewrop a Tsieina. Cyn ymuno â’r Coleg, gweithiodd i Capital Law am chwe blynedd ac wedyn i Goleg Caerdydd a’r Fro am bedair blynedd arall. Yn 2015, cafodd Paul ei ddewis fel un o’r “dynion busnes a phroffesiynol ifanc mwyaf llwyddiannus yng Nghymru” ar ôl cael ei gynnwys ar restr ‘35 o dan 35’ WalesOnline. Roedd hefyd wedi cyrraedd Rownd Derfynol Cyfarwyddwr y Flwyddyn Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru.
“Dwi wrth fy modd i gael cyfle i helpu i lunio’r agenda sgiliau ar gyfer coleg a dinas dwi mor hoff ohonyn nhw,” dywedodd Paul. “Gyda’r prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe a’r Morlyn Llanw yn nes at gael eu cyflawni a mwy o hyder busnes yn cael ei weld ar draws y ddinas, mae’n fwy hanfodol nag erioed i ddatblygu sgiliau arloesol wedi’u teilwra. Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda chyflogwyr a phartneriaid, gartref a dramor, i feithrin doniau sy’n rhoi modd i’r ardal ffynnu.”
“Dwi’n falch dros ben o groesawu Nick a Paul i’w rolau newydd a dwi’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r ddau ohonyn nhw i ddatblygu ymhellach bortffolio a phroffil cynyddol Coleg Gŵyr Abertawe fel darparwr o safon uchel sy’n ymateb yn effeithiol i anghenion ein cymunedau lleol,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones.
“Yn ogystal â chreu dwy rôl newydd sbon sy’n gyfrifol am ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith ac ymgysylltu â chyflogwyr bydd y penodiadau yn helpu i yrru’r coleg cyfan hyd yn oed ymhellach ymlaen ac un cam yn nes at ein nodau yn y pen draw, hynny yw i fod y dewis gorau oll i ddysgwyr a chwarae rôl allweddol o ran llwyddiant Abertawe yn y dyfodol.”