Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei roi ar y rhestr fer yn y categori Coleg Cyfrifeg y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yn seremoni wobrwyo PQ Magazine – teitl a gipiodd y Coleg yn 2016.
Yn wir, dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r Coleg - sef yr unig sefydliad AB yn y DU ar hyn o bryd i gael statws Partner Platinwm gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig - gael ei anrhydeddu yn y seremoni wobrwyo hon.
Yn 2017 cafodd Paul Sizer, Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid, ei enwi'n Bersonoliaeth Cyfrifeg y Flwyddyn ac enillodd Jayne Walker, Darlithydd a Mentor ar gyfer Cyfrifeg, y wobr ar gyfer Rheolwr Hyfforddiant/Mentor Gweithle'r Flwyddyn.
"Wrth gwrs, rydym wrth ein bodd i gael ein rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr PQ," meddai Paul. "Mae hyn yn dyst unwaith yn rhagor i ymroddiad a phroffesiynoldeb yr holl dîm addysgu a'n myfyrwyr."
Un arall a allai ennill gwobr eleni yw'r fyfyrwraig Kelly-Marie Besley sydd wedi cael ei henwebu yn y categori Cyfrifydd Newydd Gymhwyso'r Flwyddyn.
Aeth Kelly-Marie ymlaen o gwrs AAT Lefel 2 i Lefel 4 ac yna trosglwyddodd yn syth i gwrs ACCA - gan basio pob papur ar hyd y ffordd - yn ogystal â chwblhau cwrs Cyflogres yn y Coleg.
Ar hyn o bryd mae Kelly-Marie yn gweithio yn Matsui Components Europe Ltd yn Rhydaman fel rhan o'r tîm Cyfrifeg, ac mae Kelly-Marie hefyd wedi cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe yn rowndiau terfynol cystadleuaeth WorldSkills.
“Mae hi'n esiampl wych ac yn ysbrydoliaeth i bawb o'i chwmpas, cymaint felly mae mam Kelly-Marie hefyd wedi dechrau ar y daith AAT ac ar ei ffordd at y cwrs Lefel 3", ychwanegodd Paul.