Mae chwe myfyriwr sy’n dilyn y Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio yn Rhydychen neu Gaergrawnt yn 2018. Y myfyrwyr yw:
- Robert Fragiacomo (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) wedi cael cynnig lle i astudio Meddygaeth yng Ngholeg Robinson, Caergrawnt
- Jai Praveen (gynt o Ysgol Gyfun Olchfa) wedi cael cynnig lle i astudio Meddygaeth yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt
- Joe Mayford (gynt o Ysgol Gyfun Esgob Gôr) wedi cael cynnig lle i astudio Saesneg yng Ngholeg St Catharine, Caergrawnt
- Emily Reed (gynt o Ysgol Gyfun Esgob Gôr) wedi cael cynnig lle i astudio Saesneg yng Ngholeg Balliol, Rhydychen
- Han Xuanyuan (gynt o Ysgol Gyfun Esgob Gôr) wedi cael cynnig lle i astudio Cyfrifiadureg yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt
- Fuhao ‘Heinrich’ Song (gynt o Dalian, Tsieina) wedi cael cynnig lle i astudio Mathemateg yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt
Mae’r Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt, a addysgir ar gampws Gorseinon, yn darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
“Mae’n rhaglen ddwys sy’n cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, i Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt, cyfweliadau paratoi gyda chynfyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesu mewn pynciau perthnasol,” dywedodd tiwtor arweiniol Rhydgrawnt Felicity Padley. “Mae hefyd yn effeithiol dros ben – mae 43 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu derbyn i astudio yn Rhydychen neu Gaergrawnt yn y chwe blynedd diwethaf, ac mae hyn yn gyfradd pasio anhygoel.”
Yn ogystal, Coleg Gŵyr Abertawe – ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt – yw’r unig Goleg AB yng Nghymru i redeg rhaglen AU+.
Gyda chefnogaeth Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru, nod AU+ yw datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth wneud eu dewisdiadau prifysgol.
Lluniau: Adrian White