Mae'r prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop Sgiliau ar gyfer Diwydiant yn ceisio datblygu lefel sgiliau unigolion cyflogedig, gan gynnwys cyfranogwyr hunangyflogedig sydd heb unrhyw gymwysterau ffurfiol a'r rhai sydd â chymwysterau hyd at a chan gynnwys Lefel 7.
Mae'r prosiect yn ceisio cynorthwyo dilyniant trwy gefnogi hyfforddiant sy'n sicrhau bod darpariaeth dysgu seiliedig ar waith yn ateb anghenion cyflogwyr a gweithwyr unigol. Mae'r prosiect hefyd yn rhoi sylw i fylchau sgiliau allweddol yn y farchnad lafur a all gefnogi twf economaidd a dilyniant unigol ac, felly, sicrhau bod sgiliau yn parhau'n gyfoes a bod anghenion cyflogwyr yn cael eu hateb.
Roedd Alex, sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop Sgiliau ar gyfer Diwydiant, eisoes wedi cwblhau cymwysterau Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau ymhellach, felly penderfynodd gofrestru yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ennill Diploma Lefel 3. Drwy wneud hyn, fe gynyddodd ei lefel sgiliau yn y gweithle ac arweiniodd hyn at wella'r gofal a roddir i'w gleientiaid, gwella perfformiad a gwybodaeth arbenigol, a sicrhau'r enillion mwyaf o fuddsoddiad ei gyflogwr.
Drwy gefnogaeth y prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant llwyddodd Alex i gael mwy o hyder o fewn ei rôl yn y gwaith, symud ymlaen i'r cymhwyster lefel uwch a dysgu sut i addasu a chroesawu newid.
Roedd cyllid Sgiliau ar gyfer Diwydiant wedi chwarae rhan fawr o ran galluogi Alex i ddatblygu yn ei rôl a pharhau i wella ei sgiliau a bod yn rhan hanfodol o'i sefydliad yr un pryd. O ganlyniad uniongyrchol i gyllid Sgiliau ar gyfer Diwydiant, mae wedi ennill cymhwyster Ymarfer Uwch Lefel 5 sydd wedi'i alluogi i wneud cynnydd sylweddol o fewn ei rôl.
Erbyn hyn mae Alex yn gweithio tuag at ei gymhwyster TAQA (Addysgu a Dysgu), mae e'n magu hyder yn gyson ac mae'n ennill sgiliau newydd a fydd yn rhoi gwell ddealltwriaeth iddo o'i rôl a'r sector y mae'n gweithio ynddo. Yn ogystal, bydd cyfle ganddo i ddilyn llwybrau gyrfa ychwanegol o fewn y sefydliad a throsglwyddo ei wybodaeth a'i sgiliau i weithwyr eraill.
Mae Alex wedi gweithio'n galed trwy bob lefel - yn dechrau ar Lefel 2 gyda sgiliau a gwybodaeth gyfyngedig i gwblhau Lefel 5 mewn Ymarfer Uwch. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant arbennig iddo fe'n bersonol a gall Alex ddefnyddio ei wybodaeth a'i sgiliau i reoli tîm o staff a sicrhau rheolaeth a gweithrediad rhwydd ei weithle.