Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) sy’n golygu ei fod bellach â’r un statws ansawdd â phrifysgol o ran darparu cyrsiau Addysg Uwch.
“Rydyn ni’n un o ddim ond tri choleg addysg bellach yng Nghymru i gael achrediad QAA, mae’n gyflawniad gwych ac yn dyst i ansawdd ein darpariaeth addysg uwch sy’n tyfu,” dywedodd y Rheolwr AU Ryan Jarvis. “Mae’n fesur o safon uchel y dysgu a’r addysgu yn y coleg, ein lefel o gymorth myfyrwyr, cywirdeb ein gwybodaeth brintiedig ac ar-lein am gyrsiau a’r ffordd effeithlon mae ein cyrsiau’n cael eu rheoli.”
Nodwyd pedwar maes penodol o arfer da gan QAA yn ystod y broses achredu; defnydd y coleg o eiriolwyr AU (unigolyn ym mhob adran sy’n cefnogi myfyrwyr AU); cyngor a chymorth yn ystod y broses ymgeisio; datblygu staff a chynhadledd flynyddol y myfyrwyr, a welwyd fel enghraifft gref o ymgysylltu â myfyrwyr.
Mae llawer o gyrsiau AU Coleg Gŵyr Abertawe’n cael eu dilysu gan sefydliadau blaenllaw megis Prifysgol De Cymru, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Yn gynnar yn 2018, bydd Canolfan AU benodedig yn agor ar gampws Tycoch, campws sydd newydd gael ei ailwampio, a bydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth newydd sbon, llyfrgell sy’n canolbwyntio ar AU a lle cymdeithasol dim ond ar gyfer myfyrwyr AU.