Mae’r helfa am ddarpar gyflwynwyr teledu, troellwyr radio neu gynhyrchwyr YouTube ymlaen, wrth i bobl ifanc ledled Cymru gael eu hannog i ymgeisio i fod “wyneb” SkillsCymru.
SkillsCymru yw cyfres ddigwyddiadau flynyddol fwyaf Cymru am yrfaoedd, sgiliau, swyddi a phrentisiaethau a fydd yn dychwelyd i Landudno a Chaerdydd ym mis Hydref 2017.
Mae’r trefnyddion yn chwilio am gyflwynwyr newydd, a gaiff eu dilyn gan griw ffilmio wrth iddynt fforio’r digwyddiad a chyfweld ag arddangoswyr ac ymwelwyr.
Yn 2010, Michelle Venton oedd “Wyneb SkillsCymru” cyntaf wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Erbyn hyn mae Michelle yn gyflwynydd teledu a radio llwyddiannus ac yn priodoli peth o’i llwyddiant i’r profiad yn SkillsCymru. Dwedodd: “Wrth ddarganfod fy mod i wedi ennill, roeddwn i’n methu ei gredu, ond roeddwn i ond yn 20 mlwydd oed a ddim mor hyderus â hynny!
“Rhoddodd y dyddiau yn cyflwyno yn SkillsCymru lawer mwy o hyder i mi o flaen y camera ac wrth ryngweithio â phob math o bobl o ddynion a menywod y lluoedd arfog, i aelodau’r cyhoedd a hyd yn oed sêr!
“Erbyn hyn rwy’n gweithio ar y teledu i Sky Sports ac ar y radio i Capital FM. Does dim amheuaeth i’r profiad a ges i yn yr ychydig ddyddiau hynny fy helpu ar fy llwybr i ble ydw i nawr!”
Dwedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Dyma gyfle dysgu ardderchog ac unigryw i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes y cyfryngau a byddwn i’n annog yn gryf unrhyw un sy’n gymwys i wneud cais. Nid yn unig fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i greu cysylltiadau newydd ledled y diwydiant a dysgu mwy am sut mae bod yn gyflwynydd, ond hefyd byddant yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys magu hyder a sgiliau rhyngbersonol a fydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw yrfa”.
Gallai’r cyflwynwyr fod yn brentis neu yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu mewn hyfforddiant seiliedig ar waith, ond yn y pen draw bydd ganddynt angerdd dros y cyfryngau darlledu. Cânt eu cefnogi gan griw camera proffesiynol, a byddant yn ennill profiad unigryw drwy ryngweithio â llawer o bobl wahanol o flaen y camera.
Gall pobl ifanc 16-25 oed wneud cais sef cyflwyno darn fideo 60 eiliad yn esbonio pam dylen nhw fod wyneb SkillsCymru. Gall eich fideo fod yn y Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy.
Caiff y ceisiadau eu barnu gan banel sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol y cyfryngau ac arbenigwyr cysylltiadau cyhoeddus. Bydd enillwyr yn cael eu dewis i ymdrin â digwyddiadau yn Llandudno a Chaerdydd fel ei gilydd.
Y dyddiad cau am ymgeisio i’r gystadleuaeth yw dydd Gwener 4 Awst 2017 a chaiff yr enillwyr eu hysbysu erbyn diwedd Awst.
I wneud cais, rhaid i ymgeiswyr e-bostio eu manylion at emily.worthington@prospects.co.uk ac yna llwytho eu fideo yma: https://www.dropbox.com/request/VVGcgHKwwHWCihRsADts
Mae SkillsCymru yn cael ei drefnu gan Prospects gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Ranbarthol Ewrop.
I gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i http://www.skillscymru.co.uk/Home-cy-GB