Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 - Diploma Rhagarweiniol
Trosolwg
Ar y cwrs blwyddyn hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys bod yn drefnus, gwneud byrbrydau iach, trefnu a rhedeg digwyddiadau iechyd.
Bydd myfyrwyr hefyd yn creu gweithgareddau i blant ac yn gwybod am greu amgylchedd diogel. Trwy brofiad gwaith ymarferol, bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol i ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Amcanion y Cwrs:
- Deall y sgiliau a’r rhinweddau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Ysgrifennu aseiniadau a dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth o bynciau Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfredol.
Canlyniadau’r Cwrs:
- Bydd myfyrwyr yn gallu profi rôl gofalwr mewn canolfannau dydd, cartrefi gofal ac ysgolion
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos rhinweddau gofalu
- Bydd myfyrwyr yn gallu trefnu eu hunain a chwblhau aseiniadau sy’n dangos eu gwybodaeth o ofal.
Gwybodaeth allweddol
- 1 radd C ar lefel TGAU a phortffolio o raddau D-E.
Dros bedwar diwrnod yr wythnos 9:00 – 16:00
Asesu:
Cyfuniad o astudiaethau achos ac un holiadur amlddewis (arholiad)
Meini Prawf Graddio:
Pasio neu Fethu
Yn y Coleg, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destun
Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar ddechrau eu cwrs. Mae’n costio tua £40.