Mae bachgen 22 oed o Mayhill wedi cipio’r fedal aur mewn electroneg, yn rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau genedlaethol.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir mewn colegau ar hyd a lled y wlad yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithwyr cyflogedig arobryn, hynod fedrus ar gyfer gweithlu Cymru.
Bu Michael Jones, sy’n astudio dyfarniad mynediad lefel 3 mewn peirianneg drydanol, yn cystadlu yn erbyn 21 o fyfyrwyr eraill o bob cwr o Gymru mewn cyfres o heriau peirianneg o fewn cyfnod o saith awr. Gofynnwyd i’r cystadleuwyr greu cloc digidol, dod o hyd i namau mewn cylched a’u trwsio a dangos eu gwybodaeth theori mewn papur ysgrifenedig.
Roedd Michael, o Goleg Gŵyr, yn methu credu pan gyhoeddwyd mai fe oedd yr enillydd.
“Roedd y gystadleuaeth yn un anodd, ac ro’n i’n nerfus iawn yn cystadlu yn erbyn cymaint o fyfyrwyr eraill, heb wybod faint roedden nhw wedi bod yn ymarfer. Yn ffodus, fe ges i’r cyfle i ymarfer gyda fy nhiwtor cyn y gystadleuaeth er mwyn gwneud yn siŵr mod i’n cwblhau’r dasg mewn pryd.
“Fel rhan o’r cwrs, dwi wedi bod yn gweithio ddiwrnod yr wythnos mewn cwmni sy’n cynhyrchu setiau teledu, Tongfang Global, yn Abertawe. Bu’n ddefnyddiol iawn gweld pob cam o’r broses weithgynhyrchu, o wneud y byrddau cylched i’r llinell gynhyrchu i brofi’r setiau teledu. Mae wedi fy helpu i allu gweithio dan bwysau.
“Ar ôl gorffen yn y coleg, rwy’n gobeithio ymuno â chwmni contractio a dod yn beiriannydd cymwysedig.”
Mae dros 35 o gystadlaethau yn cael eu cynnal eleni, ar draws amrywiaeth eang o alwedigaethau, o waith plymio i therapi harddwch, o beirianneg awyrennau i gyfrifyddiaeth.
Mae’n bosib y bydd y cystadleuwyr rhanbarthol llwyddiannus yn mynd ymlaen wedyn i herio pobl ifanc o bob cwr o’r DU yn y rownd derfynol genedlaethol i’r DU gyfan, a gynhelir yn y Skills Show yn yr NEC yn Birmingham ym mis Tachwedd. Yna, mae’n bosib y bydd y cystadleuwyr sy’n rhagori yno yn cael eu rhoi ar restr fer i fynd ymlaen i herio goreuon y byd yng nghystadleuaeth ryngwladol WorldSkills yn Kazan, Rwsia yn 2019.
Meddai Steve Williams, arweinydd y cwricwlwm ar gyfer technoleg ddigidol yng Ngholeg Gŵyr: “Roedden ni wrth ein bodd i gynnal Rownd Derfynol Electroneg Ddiwydiannol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac, unwaith eto, cawsom ein plesio’n fawr gan dalent yr holl gystadleuwyr. Mae gan y bobl ifanc hyn ddyfodol disglair o’u blaenau yn y diwydiant a hoffem ddymuno’n dda i bob un ohonynt.”
Meddai Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: “Yn y Skills Show y llynedd, roedd Cymru ar frig tabl rhanbarthau’r DU gyda 45 o fedalau, sy’n dangos ein bod ni’n cynhyrchu rhai o’r bobl ifanc mwyaf talentog ym Mhrydain.”
“A hithau’n flwyddyn pan mae Cymru’n dathlu ffigyrau chwedlonol y gorffennol, mae cystadlaethau fel hyn yn tynnu sylw at y doniau sydd gennym o Fôn i Fynwy ac yn rhoi llwyfan i ffigyrau chwedlonol Cymru’r dyfodol.
“Mae Michael wedi gweithio’n galed iawn a dangos penderfyniad i lwyddo, ond mae cefnogaeth ei goleg hefyd yn ffactor llawn mor bwysig i’w lwyddiant ac felly hoffwn ddiolch yn arbennig i’r holl fusnesau lleol, ysgolion a cholegau ledled Cymru sy’n cefnogi’r unigolion talentog hyn.
“Hoffwn longyfarch Michael ar ei gamp anhygoel a dymuno’n dda iddo yng ngham nesaf y gystadleuaeth a dymuno’r gorau i’w yrfa yn y dyfodol.“