Ar hyn o bryd mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cefnogi pedwar prentis benywaidd wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf tuag at yrfa mewn gwyddoniaeth.
Mae Hazel Hinder, Sally Hughes a Courteney Peart (Tata Steel) a Meghan Maddox (Vale Europe) yn astudio BTEC Diploma Gwyddoniaeth Gymhwysol ac NVQ Technegydd Labordy ar gampws Tycoch.
"Ers dechrau fy mhrentisiaeth dwi wedi ennill sgiliau nad oeddwn i’n gallu eu hymarfer yn ystod addysg amser llawn,” dywedodd Meghan. “Mae fy mhrofiad yn y gwaith wedi rhoi cyfle i mi fireinio fy sgiliau dadansoddi a defnyddio peiriannau ac offer cymhleth nad oedden nhw ar gael i mi yn yr ysgol. Mae fy hyder yn y labordy wedi cynyddu’n aruthrol.”
“Os ydy rhywun yn meddwl am brentisiaeth, byddwn i’n argymell eu bod nhw’n mynd amdani – ‘sdim byd ‘da chi i’w golli! A dweud y gwir, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol ac ennill arian ar yr un pryd hefyd.”
"Mae’r brentisiaeth wedi rhoi modd i mi ddechrau gyrfa mewn maes a fyddai wedi bod ar gau i mi efallai oherwydd fy nghymwysterau a’m hoedran" ychwanegodd Hazel. "Mae’n drueni nad oedd hi ar gael i’w dewis pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd oherwydd mae’n gwella amrywiaeth o sgiliau ac yn gwella fy natblygiad personol mewn lleoliad gwaith. Mae’n un o’r penderfyniadau gorau dwi erioed wedi’i wneud!"
Llun: Chris Costello