Mae’r Model Rôl 'Syniadau Mawr' Benedict Room wedi cyflwyno gweithdy busnes llwyddiannus i fyfyrwyr Astudiaethau Galwedigaethol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Roeddwn i’n awyddus i’m grŵp gwrdd ag entrepreneur lleol sefydledig a fyddai’n gallu cyfleu’r wefr o redeg busnes," dywedodd y trefnydd Lucy Turtle. "Cawson nhw ddealltwriaeth fawr gan Ben o’r agweddau sydd eu hangen i lwyddo a chawson nhw eu hannog hefyd i archwilio eu galluoedd eu hunain i ddod â’u syniadau’n fyw."
“Roedd yn wych gweld darpar entrepreneuriaid y dyfodol yn cael cyfle i hogi eu sgiliau fel hyn" ychwanegodd Ben sy’n rhedeg BRD Sports ym Mro Gŵyr. "Mae’r myfyrwyr hyn mor frwdfrydig ac maen nhw’n cael cymorth gwych gan dîm Rhaglen y Bont – mae hyn yn debygol o arwain at lwyddiant yn y dyfodol.”
“Mwynheues i gwrdd â Ben," dywedodd y myfyriwr Lewis Taylor. "Dysges i lawer o sgiliau menter newydd a beth mae’n ei olygu i fod yn entrepreneur. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli y gallwn i droi fy musnes fy hun yn hobi yn lle meddwl mai dim ond gwaith yw e.”
Roedd y sesiwn yn rhan o’r cymhwyster Menter ar Raglen y Bont.
Mae Rhaglen y Bont ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sydd heb benderfynu pa lwybr gyrfa i’w ddilyn yn y dyfodol. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw flasu amrywiaeth o wahanol feysydd pwnc, er mwyn iddynt wneud penderfyniadau cytbwys am eu cam nesaf. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r rhinweddau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac mae’n paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer byd gwaith.
Gall tîm y Bont fynd ati nawr i gynllunio i gydweithio ymhellach â BRD Sports a threfnu digwyddiad yn y gymuned leol.