Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn treulio misoedd yr haf yn ymlacio ac yn magu nerth newydd ond mae Spencer Davieson ychydig yn wahanol – treuliodd ei wyliau haf yn cyhoeddi ei lyfr cyntaf.
Roedd Spencer, sy’n astudio Tylino Chwaraeon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, wedi breuddwydio am ysgrifennu a chyhoeddi llyfr ers yn ddeg oed ac, ar ôl tair blynedd o ymchwil a gwaith caled, hunangyhoeddodd y rhan gyntaf o’i gyfres The Embers of Enchantment ym mis Awst 2016.
“Dechreues i ysgrifennu straeon pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd a dwi hefyd wedi ysgrifennu darnau o ddrama a sgriptiau ffilm,” dywedodd Spencer. “The Embers of Enchantment yw fy nghyfres gyntaf o lyfrau ac mae wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf pleserus, heriol a gwobrwyol yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof ond ysgrifennu’r stori oedd y rhan hawdd. Ar ôl cwpla’r bennod olaf ‘na a rhoi ochenaid o ryddhad a chyflawniad, dyna pryd mae’r gwaith caled go iawn yn dechrau. Rhaid darllen trwyddo fe droeon, newid pethau a derbyn beirniadaeth adeiladol ac mae hyn oll yn arwain at ragor o newidiadau a gwaith darllen…”
Wedi’i ysbrydoli gan awduron megis Enid Blyton (y casgliad “The Magic Faraway Tree” yw ei ffefryn erioed), J.K. Rowling, Terry Pratchett, Roald Dahl ac R.L Stine, mae Spencer bellach yn troi ei sylw at lyfr dau – ac mae ganddo gynlluniau ar gyfer pump arall yn y dyfodol.
“Roedd gweithio gyda’r darlunydd David Platt yn anhygoel – roedd gweld sut mae cymeriad yn cael ei arlunio yn gwmws yn yr un ffordd y cafodd ei greu yn eich dychymyg eich hunan yn deimlad gwych,” ychwanegodd Spencer. “Nawr bod un freuddwyd wedi cael ei gwireddu, yn rhyfedd ddigon mae wedi arwain at freuddwydion newydd. Mae’r holl brofiad ‘ma wedi codi awydd arna i i ysgrifennu hyd yn oed rhagor – mae ysgrifennu fel bwyta Pringles sbo, unwaith eich bod yn dechrau un, allwch chi ddim stopio!”