Cyrhaeddodd myfyrwyr colegau addysg bellach Cymru uchelfannau newydd gan dorri recordiau chwaraeon tîm merched ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon yr AoC dros y penwythnos diwethaf yn Newcastle.
Enillodd tri o dimau merched Colegau Cymru, a fu’n cystadlu yn erbyn 11 o sgwadiau rhanbarthol a chenedlaethol o bob cwr o'r DU, safle ar y podiwm yng nghystadlaethau rhuban glas rygbi, pêl-rwyd a hoci.
Tîm rygbi y merched roddodd ddechrau ar y llwyddiant ddydd Sadwrn trwy gadw eu teitl am yr 8fed flwyddyn yn olynol er gwaethaf cystadleuaeth gref yn enwedig gan dîm de ddwyrain Lloegr. Arweiniwyd y perfformiad ysbrydoledig gan yr hyfforddwr Jenny Davies (Coleg Menai), cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, a Daryl Morgan (URC / Scarlets Merched), gyda thîm oedd yn cynnwys chwaraewyr o bum coleg: Coleg Sir Gâr, Coleg a Cymoedd, Coleg Penybont, Coleg Sir Benfro a Grŵp o Golegau NPTC.
Dywedodd yr Hyfforddwr Jenny Davies: "Mae Daryl ac innau yn hynod o falch o'r merched. Bu iddynt ddangos rygbi gwych a pherfformio ar safon uchel gan gadw’n gadarnhaol drwy gydol y dydd. Pleser oedd eu hyfforddi.
"Mae safon y rygbi yn gwella. Dangosodd y timoedd i gyd hunanfeddiant, gan sgorio ceisiau cyffrous. Roedd yn fraint i fod yn rhan o’r grŵp o unigolion talentog yma ac rwy'n sicr y bydd rhai ohonynt yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru. Mae datblygiad rygbi Cymru yn edrych yn addawol."
Yn y cystadlaethau pêl-rwyd a hoci, timoedd o Goleg Gŵyr Abertawe fu’n cynrychioli Colegau Cymru, a bu iddynt arwain yn gryf o’r cychwyn. Ddydd Sul, adeiladodd tîm pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe ar eu rhediad diguro o ddydd Sadwrn drwy ennill gemau hynod gystadleuol yn erbyn ffefrynnau poeth y gystadleuaeth, Coleg Hartpury a Choleg Exeter. Dyma'r tro cyntaf i dîm o Gymru ennill y gystadleuaeth pêl-rwyd yn y pencampwriaethau cenedlaethol, gyda'r merched yn dangos cryn dipyn o sgil, hunanfeddiant a gwaith tîm i ymgodymu teitl oddi wrth eu cymheiriaid o Loegr.
Dywedodd Hyfforddwr Academi Pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe Sarah Lewis: "Chwaraeodd y merched yn anhygoel o dda gyda'i gilydd, gan ddangos yr ymddiriedaeth, gwaith caled a chydlyniad tîm. Dyma oedd y foment mwyaf balch yn fy ngyrfa hyfforddi, ac yn benwythnos ni fyddaf byth yn anghofio. Bu i’r merched gynrychiolir eu coleg a’u gwlad yn y ffordd orau posib, gan ddychwelyd adref gyda medal aur ac yn Bencampwyr AoC."
Yn olaf, gyda hanes cryf yn y pencampwriaethau, ni siomodd academi hoci Coleg Gŵyr Abertawe, gan ddod adref â thrydedd medal i dîm Cymru yn y pencampwriaethau. Ar ôl dechreuad cadarn ddydd Sadwrn, gorffennodd y tîm hoci yn gryf, gan ennill medal arian yn un arall o brif gystadlaethau chwaraeon merched.
Dywedodd Cydlynydd Chwaraeon Colegau Cymru, Rob Baynham: “Dyma gyflawniadau gwych i Gymru, gyda'r merched yn arwain y ffordd mewn tri o'r digwyddiadau mwyaf cystadleuol yn y pencampwriaethau. Yn dilyn cystadlu yn erbyn rhai o academïau chwaraeon uchaf colegau Lloegr, a ddewiswyd o ranbarthau gyda dwbl y nifer o golegau yng Nghymru, mae'r merched wedi gosod meincnod newydd ar gyfer chwaraeon coleg yng Nghymru.
“Rhaid bellach i ni fwrw ymlaen gyda’r nod o adeiladu ar y cyflawniad hwn ar draws Chwaraeon Colegau Cymraeg, ac i ddefnyddio’r canlyniadau o Newcastle i ysbrydoli merched sy’n cymryd rhan yn chwaraeon yn y sector addysg bellach.”
Meddai Cyfarwyddwr Chwaraeon Elît Chwaraeon Cymru, Brian Davies: "Os ydym am barhau i gynhyrchu talent o'r radd flaenaf yng Nghymru, mae angen arnom athletwyr talentog i gymryd rhan mewn cystadlaethau cryf. Mae'r rhain yn gyflawniadau ardderchog sy'n dangos bod ein pobl ifanc yn gallu disgleirio a pherfformio yn erbyn y gorau yn y DU."
Nodiadau i olygyddion:
1. Elusen addysg cenedlaethol yw ColegauCymru sy'n cynrychioli'r 14 coleg/sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei genhadaeth yw i godi proffil addysg bellach ymysg y rhai sy'n gwneud penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ar GolegauCymru a’r colegau y mae yn eu cynrychioli ewch at www.colegaucymru.ac.uk
2. Chwaraeon Colegau Cymru yw'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer chwaraeon mewn addysg bellach. Mae'n cael ei gydlynu gan GolegauCymru gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru. Ewch at www.welshcollegessport.wales neu www.chwaraeoncolegau.cymru am ragor o wybodaeth.
3. Pencampwriaeth Chwaraeon yr AoC yw’r digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf i fyfyrwyr ledled Prydain, gan ddenu mwy na 2,000 o fyfyrwyr a staff bob blwyddyn. Cafodd y 38ain Pencampwriaeth ei chynnal yn Newcastle rhwng 15 ac 17 Ebrill 2016. Ceir gwybodaeth ar y pencampwriaethau ar: http://www.aocsportchamps.org/