Skip to main content

Lansio bwrsariaeth newydd i entrepreneuriaid

Mae cronfa newydd i helpu darpar entrepreneuriaid i droi eu syniadau yn realiti wedi cael ei lansio yn Abertawe.

Mae Cronfa Hadau Abertawe (Swansea Seed Fund) wedi cael ei sefydlu i feithrin pobl ifanc 16-25 oed wrth iddynt ddatblygu eu syniadau o'r camau cynnar hyd at - o bosib - ddechrau busnes llwyddiannus.

Bydd pawb yn cael hyd at £500 i'w helpu i gyflawni eu potensial, yn ogystal â'r cyfle i gael cymorth mentora gan grŵp o sefydliadau lleol gan gynnwys Banc Lloyds, Santander, Dinas a Sir Abertawe, Bevan and Buckland, a phobl fusnes leol eraill sy'n rhoi eu hamser i gefnogi'r cyw entrepreneuriaid newydd hyn.

“Prif nod y Gronfa yw gwella rhagolygon pobl ifanc leol a rhoi'r hyder iddynt 'fynd amdani',” dywedodd Sue Poole, Rheolwr Menter Coleg Gŵyr Abertawe. “Y gobaith yw y bydd rhannu ein gwybodaeth, ein profiad a'n sgiliau yn helpu i greu 'cronfa ddoniau' enthrepreneuraidd yn Ninas a Sir Abertawe. Pwy a ŵyr? Gallai'r bobl ifanc hyn fod yn gyflogwyr ac yn arweinwyr busnes y dyfodol."

“O brofiad y rhai sy'n rhan o'r grŵp Adeiladu Addysg Fenter yn Abertawe (BEES), gwyddom fod angen cymorth ariannol ac ymgynghorol ar bobl ifanc i'w helpu i droi eu syniadau yn fusnesau hyfyw a allai, yn eu tro, arwain at fwy o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn y blynyddoedd i ddod," ychwanegodd Sue. "Dyma'r rheswm dros greu Cronfa Hadau Abertawe."

Gall pobl ifanc a hoffai wneud cais am y Gronfa Hadau, neu unrhyw fusnesau a hoffai wybod sut y gallant helpu'r genhedlaeth nesaf, wneud hynny trwy'r wefan www.swanseaseedfund.com