Roedd myfyrwyr sy’n bwriadu dilyn gyrfa ym maes meddygaeth/seiciatreg wedi cael cyfle yn ddiweddar i gwrdd ag un o ffigyrau blaenllaw y maes pan ymwelodd golygydd cyntaf The Lancet Psychiatry â Choleg Gŵyr Abertawe.
Roedd Niall Boyce wedi cwrdd â myfyrwyr ar gampws Gorseinon i siarad am feysydd sy’n datblygu yng ngwaith ymchwil iechyd meddwl.
"Mae gwaith ymchwil ym maes iechyd meddwl yn gyffrous iawn ar hyn o bryd, ac mae gwaith o’r radd flaenaf yn cael ei wneud yng Nghymru,” dywedodd Niall. “Dwi’n gobeithio y bydd rhai o’r myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ystyried gyrfa yn y maes hwn."
Bu Niall yn ddigybl yn Ysgol Gyfun Esgob Gôr ac Ysgol Gyfun Olchfa yn Abertawe cyn dilyn hyfforddiant ym maes meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ac ennill PhD mewn Ffisioleg o Goleg y Brenin, Llundain.
Ymunodd â The Lancet fel Uwch-olygydd yn 2010 cyn cael ei benodi’n olygydd cyntaf The Lancet Psychiatry yn 2013. Mae ei ddiddordebau arbenigol yn cynnwys ymchwil hunanladdiad, trawma, seicatreg henaint ac agweddau cymdeithasol a thrawsddiwylliannol ar iechyd meddwl.
“Roedd yn fraint croesawu Niall i’r coleg,” dywedodd Stewart McConnell, darlithydd Bioleg a’r Gwyddorau Meddygol. “Mae’n gyfle gwych i’n myfyrwyr gwrdd â ffigwr blaenllaw yn eu maes diddordeb a chael cyfle hefyd i ofyn cwestiynau – dwi’n siŵr eu bod nhw i gyd wedi elwa’n fawr ar y profiad hwn.”