Skip to main content
Students

Soprano yn rhoi dosbarth meistr ar glyweliadau

Cafodd myfyrwyr Cerddoriaeth Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gyfle gwych yn ddiweddar i fwynhau dosbarth meistr gyda'r soprano fyd-enwog Eiddwen Harrhy.

“Mae Eiddwen yn dalent arbennig ac roedd yn fraint ei chroesawu hi i'r coleg lle y treuliodd amser gyda'r myfyrwyr a fydd yn cael clyweliadau cyn bo hir i geisio cael lle mewn Conservatoire ar hyd a lled y DU, sy'n broses hynod gystadleuol," dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu, David Lloyd Jones.

Cyn iddi ymddeol, roedd Eiddwen yn Athro Astudiaethau Llais yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle'r oedd hefyd ar y panel clyweld. Mae wedi bod yn Athro gwadd ym Mhrifysgol Indiana hefyd ac wedi cael swyddi addysgu mewn Conservatoires ar draws Ewrop, gan gynnwys Helsinki, Berlin a Prague.

“Mae gyrfa ragorol Eiddwen wedi cwmpasu 40 flynyddoedd, 20 ohonynt yn addysgu - felly does neb gwell mewn gwirionedd i arwain ein myfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu clyweliadau," ychwanega David. "Rydym ni i gyd yn ddiolchgar iawn iddi am helpu'r coleg fel hyn, ac edrychwn ymlaen at ei gweld hi'n dychwelyd atom yn ystod y flwyddyn pan fydd hi'n clywed y myfyrwyr yn perfformio eu darnau o ddewis."