Coleg Gŵyr Abertawe yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i gael ei staff Gwasanaethau Cyfrifiadurol wedi’u hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (BCS), y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG.
Daw hyn ar ôl asesiad diweddar o’r holl dechnegwyr a staff technegol o fewn yr adran.
“Mae’r BCS wedi cydnabod ein bod ni’n ymrwymedig i hyrwyddo datblygiad proffesiynol ein technegwyr TG. Maen nhw wedi bodloni’r safonau gofynnol ac wedi llwyddo i ennill eu hachrediad proffesiynol,” dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifiadurol Richard Thorne.
Mae staff Gwasanaethau Cyfrifiadurol bellach yn cael eu cydnabod fel Technegwyr TG cofrestredig proffesiynol (RITTech).
“Mae achrediad RITTech yn adlewyrchu ac yn cydnabod proffesiynoldeb ac ymrwymiad fy nhîm wrth gynnig y profiad TG gorau posib i staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe,” ychwanegodd Richard. “Dwi’n falch o ddweud mai ein tîm ni oedd y cyntaf mewn unrhyw goleg i ennill yr achrediad proffesiynol newydd hwn – achrediad mae’r tîm yn haeddiannol falch o’i arddangos.”