Mae Syr Terry Matthews wedi lleisio ei gefnogaeth i bartneriaeth newydd a sefydlwyd i fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau digidol yn Ninas-Rhanbarth Bae Abertawe.
Wrth siarad am lansio Hyfforddiant Sgiliau Digidol, sy'n fenter gyhoeddus/breifat rhwng Coleg Gŵyr Abertawe a'r cwmni hyfforddi a datblygu TG Stratum Worldwide, dywedodd Syr Terry ei fod yn falch i weld y coleg yn ymateb yn rhagweithiol i'r cyfleoedd economaidd a masnachol sy'n cael eu creu wrth i rwydweithiau digidol ehangu ac wrth i gymwysiadau a gwasanaethau sy'n manteisio i'r eithaf arnynt gael eu datblygu.
Mae Hyfforddiant Sgiliau Digidol yn peilota nifer o gymwysterau yn seiliedig ar raglen ardystio fyd-eang Microsoft mewn datblygu meddalwedd, diogelwch rhwydweithiau a rheoli cronfeydd data - rhaglenni nad ydynt ar gael ar hyn o bryd yn yr ardal. Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, mae'r hyfforddiant ar gael am lai na hanner y pris arferol am y chwe mis cyntaf.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Dinas-Rhanbarth Bae Abertawe a'r entrepreneur TG, Syr Terry: “Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod diffyg sgiliau enfawr yn fyd-eang o ddylunwyr a rhaglenwyr meddalwedd a bod hyn yn sector gyda nifer fawr o swyddi. Mae'n galonogol gweld bod Coleg Gŵyr Abertawe yn achub ar y cyfle ac yn datblygu’r sgiliau sy'n hollbwysig i ffyniant economaidd Dinas-Rhanbarth Bae Abertawe yn y dyfodol."
Mae cyrsiau'n rhedeg o 28 Medi ar gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe. Bydd pob myfyriwr llwyddiannus yn cyrraedd lefel Cymdeithas Technoleg Microsoft (MTA) a naill ai lefelau Cymrawd Atebion Ardystiedig Microsoft (MCSA) neu Ddatblygwr Atebion Ardystiedig Microsoft (MCSD).
Ychwanegodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Dros y misoedd diwethaf, mae'r coleg wedi bod wrthi'n datblygu rhaglenni newydd mewn meysydd sector â blaenoriaeth sy'n ymateb yn uniongyrchol i ofynion ac anghenion cyflogwyr.
“Trwy'r bartneriaeth hon, credwn fod gennym ni sylfaen gadarn - profiad Stratum o ddarparu'r rhaglenni hyn ar y cyd â chysylltiadau'r coleg, cysylltiadau â diwydiant ac adnoddau.”
Cewch ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, costau a dyddiadau yn www.gcs.ac.uk/digital-skills