Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi prynu cyfranddaliadau yn un o’r prif gwmnïau hyfforddi a datblygu yng Nghymru, sy’n darparu hyfforddiant gwella busnes a rhaglenni ‘Six Sigma’ ledled gwledydd Prydain.
Erbyn hyn, y Coleg yw cyfranddaliwr mwyaf Track Training Limited – cwmni llwyddiannus ‘Wales Fast Growth 50’ sydd wedi bod ar waith ers tro byd gyda chleientiaid blaenllaw yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y cydweithrediad cyffrous hwn yn rhoi cyfle i’r ddau sefydliad rannu arbenigedd ei gilydd a darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau o safon ar yr un pryd gan gynnwys effeithlonrwydd ynni, peirianneg, datblygu rheolwyr, gwella parhaus a rhaglenni Lean Sigma.
“Rydyn ni’n falch iawn o gwblhau’r ddêl yma,” dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. “Bydd yn rhoi cyfle i ni fanteisio ar graffter busnes a masnachol helaeth Track a darparu gwasanaethau ychwanegol sydd o fudd mawr i gleientiaid presennol a rhai newydd.”
Bwriedir y bydd Track Training Limited yn parhau i weithredu fel cwmni ar wahân ac aros ar ei safle presennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Mae brand cryf gyda Track Training ac mae ei hyfforddiant gwella busnes yn ymgysylltu â diwydiant y DU mewn ffordd gadarnhaol,” ychwanegodd y Cadeirydd Malcolm Sanders MBE. “Rydyn ni’n credu y bydd y datblygiad diweddaraf ‘ma yn cael effaith bositif ar ein gwaith gyda’n cleientiaid a’n partneriaid. Bydd yn rhoi cyfle i Track ehangu ei bortffolio cynnyrch a chryfhau ei safle yn y farchnad ymhellach.”