Mae adran Technoleg Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe (Tycoch) wedi dathlu ei gohort BTEC Lefel 3 mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn.
O ddosbarth graddio 2015, mae saith yn mynd i rai o’r prifysgolion gorau ledled gwledydd Prydain gan gynnwys Abertawe, Manceinion, Swydd Gaerhirfryn a Bryste, i astudio am radd mewn Peirianneg Gemegol, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur, Pensaernïaeth a Roboteg.
Mae 14 o fyfyrwyr eraill wedi sicrhau prentisiaethau gyda chwmnïau sefydledig gan gynnwys Tata Steel, 3M, Quartzelec, Wall Colmonoy, Lyte Ladders ac A.I.R Precision.
“Dw i mor falch o’r myfyrwyr hyn, fel eu tiwtor personol a’u Harweinydd Cwricwlwm Technoleg Peirianneg,” dywedodd Coral Planas. “Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi arwain at geisiadau llwyddiannus i Addysg Uwch a lleoliadau poblogaidd ym myd diwydiant. Dyn ni’n dymuno’n dda iddyn nhw yn y dyfodol a dyn ni’n edrych ymlaen at gynnig cymorth i’r rhai fydd yn dychwelyd i gampws Tycoch fel rhan o’u prentisiaethau.”
“Hoffwn i ddiolch i’n tîm darlithio am eu cyfraniad hanfodol i’r llwyddiant hwn.”